Rheoliadau 3 a 4
ATODLEN 2Yr wybodaeth sydd i’w chynnwys yn y gronfa ddata PCA
1. Enw’r plentyn (gan gynnwys unrhyw enw blaenorol).
2. Cyfeiriad y plentyn (neu ei gyfeiriad hysbys diwethaf), gan gynnwys cod post.
3. Dyddiad geni’r plentyn.
4. Enw, cyfeiriad a chod post, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost holl rieni’r plentyn.
5. Enw a chyfeiriad y person sy’n darparu’r cyfan neu ran o’r addysg.
6. Unrhyw anghenion dysgu ychwanegol a allai fod gan y plentyn ac unrhyw ddarpariaeth ddysgu ychwanegol y gelwir amdani.