Dileu cofnod PCA pan fo plentyn yn dod yn ddisgybl cofrestredig
8. Pan ddaw awdurdod lleol peilot yn ymwybodol bod plentyn y mae ei enw wedi ei gynnwys yn y gronfa ddata PCA bellach yn ddisgybl cofrestredig, rhaid i’r awdurdod lleol peilot ddileu cofnod PCA y plentyn hwnnw o’r gronfa ddata PCA cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.