Dileu cofnod PCA pan fo plentyn wedi gadael yr ardal
7. Pan ddaw awdurdod lleol peilot yn ymwybodol bod plentyn y mae ei enw wedi ei gynnwys yn y gronfa ddata PCA wedi gadael ei ardal ac nad yw’n gwybod ymhle y mae’r plentyn bellach yn preswylio fel arfer, rhaid i’r awdurdod lleol peilot ddileu cofnod PCA y plentyn hwnnw o’r gronfa ddata PCA cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.