Dileu cofnod PCA pan fo plentyn yn preswylio fel arfer yn rhywle arall
6. Pan ddaw awdurdod lleol peilot yn ymwybodol bod plentyn y mae ei enw wedi ei gynnwys yn y gronfa ddata PCA bellach yn preswylio fel arfer yn ardal awdurdod lleol arall yng Nghymru neu awdurdod lleol yn Lloegr (“yr awdurdod lleol derbyn”), neu fod hynny’n debygol o ddigwydd, rhaid iddo—
(a)hysbysu’r awdurdod lleol derbyn am gofnod PCA y plentyn o fewn 28 o ddiwrnodau i’r dyddiad y daeth yn ymwybodol, a
(b)dileu cofnod PCA y plentyn hwnnw o’r gronfa ddata PCA cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r plentyn adael ei ardal.