Dyletswydd Bwrdd Iechyd Lleol a chontractwr GMC i ddatgelu
4.—(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo Bwrdd Iechyd Lleol, wrth arfer ei swyddogaethau o dan Ran 4 o Ddeddf 2006, neu gontractwr GMC, yn dal unrhyw wybodaeth a bennir ym mharagraffau 1 i 3 o Atodlen 2 mewn perthynas â phlentyn sy’n preswylio fel arfer yn ardal awdurdod lleol peilot.
(2) Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol a chontractwr GMC sicrhau bod yr wybodaeth a ddelir ganddo, a bennir ym mharagraffau 1 i 3 o Atodlen 2 mewn perthynas â phlentyn, yn cael ei datgelu i awdurdod lleol peilot perthnasol y plentyn, a hynny erbyn 30 Ebrill 2025.
(3) “Awdurdod lleol peilot perthnasol” y plentyn yw’r awdurdod lleol peilot y mae’r plentyn yn preswylio fel arfer yn ei ardal.
(4) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “contract GMC” (“GMS contract”) yw contract gwasanaethau meddygol cyffredinol o dan adran 42 o Ddeddf 2006 (contractau gwasanaethau meddygol cyffredinol: rhagarweiniol);
ystyr “contractwr GMC” (“GMS contractor”) yw parti i gontract GMC, ac eithrio’r Bwrdd Iechyd Lleol;
ystyr “Deddf 2006” (“the 2006 Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1);
mae i “preswylio fel arfer” (“usually resident”) yr un ystyr ag yn rheoliad 2(2) a (3) o Reoliadau’r Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau a Gyfarwyddir) (Cymru) 2009(2).