Sefydlu cronfa ddata PCA
3.—(1) Rhaid i awdurdod lleol peilot sefydlu a gweithredu cronfa ddata PCA.
(2) Pan fodlonir yr amodau ym mharagraff (3) mewn perthynas â phlentyn penodol, rhaid i’r gronfa ddata PCA gynnwys yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 2 ac sydd ar gael i’r awdurdod lleol peilot mewn perthynas â’r plentyn hwnnw.
(3) Yr amodau yw—
(a)bod y plentyn yn preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod lleol peilot,
(b)nad yw’r plentyn yn ddisgybl cofrestredig, ac
(c)ei bod yn ymddangos i’r awdurdod lleol peilot nad yw’r plentyn yn cael addysg addas, neu nad yw’r plentyn o bosibl yn cael addysg addas.