Sefydlu cronfa ddata PCA
regulation 3 3.—(1) Rhaid i awdurdod lleol peilot sefydlu a gweithredu cronfa ddata PCA.
(2) Pan fodlonir yr amodau ym mharagraff (3) mewn perthynas â phlentyn penodol, rhaid i’r gronfa ddata PCA gynnwys yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 2 ac sydd ar gael i’r awdurdod lleol peilot mewn perthynas â’r plentyn hwnnw.
(3) Yr amodau yw—
regulation 3 3 a (a)bod y plentyn yn preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod lleol peilot,
regulation 3 3 b (b)nad yw’r plentyn yn ddisgybl cofrestredig, ac
regulation 3 3 c (c)ei bod yn ymddangos i’r awdurdod lleol peilot nad yw’r plentyn yn cael addysg addas, neu nad yw’r plentyn o bosibl yn cael addysg addas.