Dehongli
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
mae i “addysg addas” yr un ystyr â “suitable education” yn adran 436A(3) o Ddeddf 1996;
mae i “anghenion dysgu ychwanegol” (“additional learning needs”) yr un ystyr ag yn adran 2 o Ddeddf 2018;
ystyr “awdurdod lleol peilot” (“pilot local authority”) yw awdurdod lleol yng Nghymru a restrir yn Atodlen 1;
ystyr “awdurdod lleol yng Nghymru” (“local authority in Wales”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;
ystyr “awdurdod lleol yn Lloegr” (“local authority in England”) yw—
cyngor sir yn Lloegr;
cyngor dosbarth metropolitanaidd;
cyngor dosbarth anfetropolitanaidd ar gyfer ardal nad oes cyngor sir ar ei chyfer;
cyngor bwrdeistref yn Llundain; ac
Cyngor Cyffredin Dinas Llundain (yn rhinwedd ei swyddogaeth fel awdurdod lleol);
ystyr “cofnod PCA” (“CME record”), mewn perthynas â phlentyn, yw’r wybodaeth sydd wedi ei chynnwys yn y gronfa ddata PCA ac sy’n ymwneud â’r plentyn hwnnw;
mae i “darpariaeth ddysgu ychwanegol” (“additional learning provision”) yr un ystyr ag yn adran 3 o Ddeddf 2018;
ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996(1);
ystyr “Deddf 2018” (“the 2018 Act”) yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018(2);
ystyr “disgybl cofrestredig” (“registered pupil”) yw plentyn sydd wedi ei gofrestru yn ddisgybl mewn ysgol mewn cofrestr a gedwir o dan adran 434 o Ddeddf 1996;
ystyr “y gronfa ddata PCA” (“the CME database”) yw’r gronfa ddata sydd wedi ei sefydlu a’i gweithredu, neu sydd i’w sefydlu a’i gweithredu, gan awdurdod lleol peilot o dan reoliad 3;
mae i “oedran ysgol gorfodol” yr un ystyr â “compulsory school age” yn adran 8 o Ddeddf 1996(3);
ystyr “PCA” (“CME”) yw plant sy’n colli addysg;
ystyr “plentyn” (“child”) yw person o oedran ysgol gorfodol;
ystyr “rhiant” (“parent”) yw unrhyw berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn (o fewn yr ystyr a roddir i “parental responsiblity” yn adran 3 o Ddeddf Plant 1989(4)) neu sydd â gofal am y plentyn ar unrhyw adeg;
mae i “ysgol” yr un ystyr â “school” yn adran 4 o Ddeddf 1996(5).
(2) Yn y Rheoliadau hyn, mae unrhyw gyfeiriad at berson sydd wedi ei gyflogi yn cynnwys person sydd wedi ei gyflogi pa un ai o dan gontract gwasanaeth neu gontract ar gyfer gwasanaethau, a pherson sydd wedi ei secondio i’r awdurdod lleol peilot o dan sylw.
Diwygiwyd adran 8 gan adran 52 o Ddeddf Addysg 1997 (p. 44).
Mae adran 4 wedi ei diwygio gan adran 51 o Ddeddf Addysg 1997 (p. 44), Rhan 3 o Atodlen 22 i Ddeddf Addysg 2002 (p. 32), adran 95 o Ddeddf Gofal Plant 2006 (p. 21), paragraff 9 o Atodlen 13 i Ddeddf Addysg 2011 (p. 21) ac O.S. 2019/1027.