Dileu cofnod PCA pan fo plentyn yn peidio â bod o oedran ysgol gorfodol
11. Pan ddaw awdurdod lleol peilot yn ymwybodol bod plentyn y mae ei enw wedi ei gynnwys yn y gronfa ddata PCA yn peidio â bod o oedran ysgol gorfodol, rhaid i’r awdurdod lleol peilot ddileu cofnod PCA y plentyn hwnnw o’r gronfa ddata PCA cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.