ID badges: Hide | Show

RHAN 4Y DARPARIAETHAU DARFODOL A THROSIANNOL SY’N YMWNEUD Â DEDDF 2015

Y ddarpariaeth ddarfodol sy’n ymwneud ag adran 1 o Ddeddf 2015

11.—(1Mae’r addasiadau i adran 1 o Ddeddf 2015 sydd wedi eu nodi ym mharagraff (2) yn gymwys yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 31 Gorffennaf 2026 ac sy’n dod i ben yn union cyn i baragraff 31 o Atodlen 4 i’r Ddeddf ddod i rym yn llawn.

(2Mae adran 1(4) a (5) yn cael effaith fel pe bai’r ddau gyfeiriad at sefydliadau sydd â chynllun ffioedd a mynediad yn gyfeiriadau at sefydliadau sydd â chynllun ffioedd a mynediad ac eithrio sefydliadau sydd hefyd yn ddarparwyr cofrestredig.

Datgymhwyso darpariaethau penodol yn Neddf 2015

12.—(1Nid yw’r darpariaethau yn Neddf 2015 o fewn paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â sefydliad rheoleiddiedig ar ôl iddo ddod yn ddarparwr cofrestredig.

(2Y darpariaethau yw—

(a)Rhan 3 (ansawdd yr addysg);

(b)Rhan 4 (materion ariannol sefydliadau rheoleiddiedig);

(c)adran 37(3)(d) ac (e) (hysbysiad ynghylch gwrthod cymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad newydd);

(d)adran 39(2)(c) a (d) (pŵer i dynnu cymeradwyaeth yn ôl);

(e)adran 52(5)(c) i (f) (datganiad mewn cysylltiad â swyddogaethau ymyrryd);

(f)adran 52(5)(g) i’r graddau y mae’n ymwneud ag adran 37(3)(d) ac (e);

(g)adran 52(5)(h) i’r graddau y mae’n ymwneud ag adran 39(2)(c) a (d).

(3Ym mharagraff (1), mae sefydliad rheoleiddiedig yn cynnwys sefydliad sy’n cael ei drin fel sefydliad rheoleiddiedig yn rhinwedd adran 26 (cymhwyso’r Rhan hon pan fo sefydliad yn peidio â chael cynllun a gymeradwywyd) o Ddeddf 2015.

Hysbysiadau rhybuddio o dan Ddeddf 2015

13.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys pan fo’r Comisiwn wedi rhoi i sefydliad rheoleiddiedig hysbysiad rhybuddio o fewn paragraff (3) a phan fo’r sefydliad yn dod yn ddarparwr cofrestredig.

(2Er gwaethaf yr hysbysiad rhybuddio, ar ôl i’r sefydliad rheoleiddiedig ddod yn ddarparwr cofrestredig, ni chaiff y Comisiwn roi cyfarwyddyd na hysbysiad iddo o dan y darpariaethau a grybwyllir ym mharagraff (3).

(3Mae hysbysiad rhybuddio o fewn y paragraff hwn os yw’n cael ei roi o dan adran 42 (hysbysiadau a chyfarwyddydau arfaethedig: gofyniad i roi hysbysiad rhybuddio) o Ddeddf 2015 ac mae’n ymwneud â’r canlynol—

(a)cyfarwyddyd arfaethedig o dan—

(i)adran 19 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad ag ansawdd annigonol) o’r Ddeddf honno;

(ii)adran 33 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â’r Cod) o’r Ddeddf honno;

(b)hysbysiad arfaethedig o dan—

(i)adran 37(1) o’r Ddeddf honno mewn cysylltiad â’r amod yn adran 37(3)(d) neu (e) o’r Ddeddf honno;

(ii)adran 39(1) o’r Ddeddf honno mewn cysylltiad â’r amod yn adran 39(2)(c) neu (d) o’r Ddeddf honno.

Cyfarwyddydau o dan Ddeddf 2015 nad ydynt mewn grym

14.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys i gyfarwyddyd a roddir gan y Comisiwn i sefydliad rheoleiddiedig sy’n dod yn ddarparwr cofrestredig.

(2Ar ôl i’r sefydliad rheoleiddiedig ddod yn ddarparwr cofrestredig, mae cyfarwyddyd sydd o fewn paragraff (3) ac y mae paragraff (4) yn gymwys iddo i’w drin fel pe bai wedi ei ddirymu.

(3Mae cyfarwyddyd o fewn y paragraff hwn os yw’n cael ei roi o dan—

(a)adran 19 o Ddeddf 2015;

(b)adran 33 o Ddeddf 2015.

(4Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gyfarwyddyd a roddir—

(a)pan na fo corff llywodraethu’r sefydliad wedi hysbysu’r Comisiwn yn ysgrifenedig ei fod yn derbyn y cyfarwyddyd a phan na fo’r cyfnod ar gyfer gwneud cais am adolygiad o dan reoliad 8 (y weithdrefn i wneud cais am adolygiad o hysbysiadau a chyfarwyddydau) o Reoliadau 2015 wedi dod i ben, neu

(b)pan fo corff llywodraethu’r sefydliad wedi gwneud cais i’r panel adolygu o dan reoliad 8 o Reoliadau 2015 ac—

(i)pan na fo’r adolygiad wedi gorffen, neu

(ii)pan fo’r adolygiad wedi gorffen ond pan na fo’r Comisiwn wedi hysbysu’r corff llywodraethu yn ysgrifenedig fod y cyfarwyddyd yn cael effaith.

(5Ym mharagraff (4)(a), ystyr hysbysu’r Comisiwn yn ysgrifenedig yw hysbysu o dan reoliad 4(a) (trin hysbysiadau a chyfarwyddydau) o Reoliadau 2015.

Hysbysiadau o dan Ddeddf 2015 nad ydynt mewn grym

15.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys i hysbysiad a roddir gan y Comisiwn i sefydliad rheoleiddiedig sy’n dod yn ddarparwr cofrestredig.

(2Ar ôl i’r sefydliad rheoleiddiedig ddod yn ddarparwr cofrestredig, mae hysbysiad sydd o fewn paragraff (3) ac y mae paragraff (4) yn gymwys iddo i’w drin fel pe bai wedi ei dynnu’n ôl.

(3Mae hysbysiad o fewn y paragraff hwn os yw’n cael ei roi o dan—

(a)adran 37(1) o Ddeddf 2015 mewn cysylltiad â’r amod yn adran 37(3)(d) neu (e) o’r Ddeddf honno, neu

(b)adran 39(1) o Ddeddf 2015 mewn cysylltiad â’r amod yn adran 39(2)(c) neu (d) o’r Ddeddf honno.

(4Mae’r paragraff hwn yn gymwys i hysbysiad a roddir—

(a)pan na fo corff llywodraethu’r sefydliad wedi hysbysu’r Comisiwn yn ysgrifenedig ei fod yn derbyn yr hysbysiad a phan na fo’r cyfnod ar gyfer gwneud cais am adolygiad o dan reoliad 8 o Reoliadau 2015 wedi dod i ben, neu

(b)pan fo corff llywodraethu’r sefydliad wedi gwneud cais i’r panel adolygu o dan reoliad 8 o Reoliadau 2015 ac—

(i)pan na fo’r adolygiad wedi gorffen, neu

(ii)pan fo’r adolygiad wedi gorffen ond pan na fo’r Comisiwn wedi hysbysu’r corff llywodraethu yn ysgrifenedig fod yr hysbysiad yn cael effaith.

(5Ym mharagraff (4)(a), ystyr hysbysu’r Comisiwn yn ysgrifenedig yw hysbysu o dan reoliad 4(a) o Reoliadau 2015.

Hysbysiadau penodol o dan Ddeddf 2015 sydd mewn grym

16.—(1Nid yw dim yn y Rhan hon yn effeithio ar gymhwysiad hysbysiad sydd—

(a)o fewn paragraff (2), a

(b)mewn effaith mewn perthynas â sefydliad yn union cyn i’r sefydliad hwnnw ddod yn ddarparwr cofrestredig.

(2Mae hysbysiad o fewn y paragraff hwn os yw’n cael ei roi o dan—

(a)adran 37(1) o Ddeddf 2015 mewn cysylltiad â’r amod yn adran 37(3)(d) neu (e) o’r Ddeddf honno;

(b)adran 39(1) o Ddeddf 2015 mewn cysylltiad â’r amod yn adran 39(2)(c) neu (d) o’r Ddeddf honno.

(3Mae hysbysiad mewn effaith—

(a)os yw corff llywodraethu’r sefydliad y mae’r hysbysiad wedi ei gyfeirio ato wedi rhoi hysbysiad ysgrifenedig o dan reoliad 4(a) o Reoliadau 2015 ei fod yn derbyn yr hysbysiad,

(b)os na all y corff hwnnw wneud cais am adolygiad o dan reoliad 8 o Reoliadau 2015 oherwydd bod y cyfnod ar gyfer gwneud cais i’r panel adolygu wedi dod i ben, neu

(c)os yw’r corff hwnnw wedi cael hysbysiad o dan reoliad 10(2) (y weithdrefn ar ôl adolygu) o Reoliadau 2015 fod yr hysbysiad yn cael effaith ar ôl i adolygiad mewn cysylltiad â’r hysbysiad orffen.

(4Ym mharagraff (1), nid yw hysbysiad a roddir o dan adran 37 o Ddeddf 2015 mewn effaith—

(a)os yw’r cyfnod a bennir yn yr hysbysiad wedi dod i ben, neu

(b)os yw’r hysbysiad wedi cael ei dynnu’n ôl o dan adran 37(6) o Ddeddf 2015.

Cyfarwyddydau o dan Ddeddf 2015 sydd mewn grym

17.—(1Nid yw cyfarwyddyd sydd o fewn paragraff (2) ac mewn effaith yn gymwys ar ôl i’r sefydliad rheoleiddiedig y rhoddwyd y cyfarwyddyd iddo ddod yn ddarparwr cofrestredig.

(2Mae cyfarwyddyd o fewn y paragraff hwn os yw’n cael ei roi o dan unrhyw un o’r adrannau a ganlyn o Ddeddf 2015—

(a)adran 19;

(b)adran 21(3) (asesu ansawdd etc: dyletswydd i gydweithredu);

(c)adran 33;

(d)adran 35(2) (rheolaeth ariannol: dyletswydd i gydweithredu).

(3Mae cyfarwyddyd sydd o fewn paragraff 2(a) neu (c) mewn effaith—

(a)os yw’r canlynol yn wir—

(i)bod corff llywodraethu’r sefydliad y mae’r cyfarwyddyd wedi ei gyfeirio ato wedi hysbysu’r Comisiwn yn ysgrifenedig o dan reoliad 4(a) o Reoliadau 2015 ei fod yn derbyn y cyfarwyddyd,

(ii)na all corff llywodraethu’r sefydliad y mae’r cyfarwyddyd wedi ei gyfeirio ato wneud cais am adolygiad o dan reoliad 8 o Reoliadau 2015 oherwydd bod y cyfnod ar gyfer gwneud cais i’r panel adolygu wedi dod i ben, neu

(iii)bod corff llywodraethu’r sefydliad y mae’r cyfarwyddyd wedi ei gyfeirio ato wedi cael ei hysbysu yn ysgrifenedig gan y Comisiwn fod y cyfarwyddyd yn cael effaith ar ôl i adolygiad mewn cysylltiad â’r cyfarwyddyd hwnnw orffen,

(b)os nad yw’r Comisiwn wedi dirymu’r cyfarwyddyd o dan adran 46(b) (cyfarwyddydau: cyffredinol) o Ddeddf 2015, ac

(c)i’r graddau nad yw’r Comisiwn wedi rhoi hysbysiad o dan adran 45(3) (cyfarwyddydau: cydymffurfio a gorfodi) o Ddeddf 2015 i gorff llywodraethu’r sefydliad y mae’r cyfarwyddyd wedi ei gyfeirio ato yn datgan bod y Comisiwn wedi ei fodloni bod y corff—

(i)wedi cydymffurfio â’r cyfarwyddyd, neu

(ii)wedi cydymffurfio â gofyniad penodol yn y cyfarwyddyd.

(4Ym mharagraff (1), mae cyfarwyddyd yn cynnwys cyfarwyddyd sydd wedi ei amrywio o dan adran 46(b) o Ddeddf 2015.

Datganiad mewn cysylltiad â swyddogaethau ymyrryd o dan Ddeddf 2015

18.—(1I’r graddau y mae’n ymwneud â’r darpariaethau yn Neddf 2015 a restrir ym mharagraff (2), nid yw datganiad a gyhoeddir o dan adran 52 o’r Ddeddf honno yn gymwys mewn perthynas â sefydliad rheoleiddiedig ar ôl iddo ddod yn ddarparwr cofrestredig.

(2Y darpariaethau yn Neddf 2015 yw—

(a)adran 19;

(b)adran 20(1) a (2);

(c)adran 33;

(d)adran 34;

(e)adran 37(3)(d) ac (e);

(f)adran 39(2)(c) a (d).