ID badges: Hide | Show

RHAN 4Y DARPARIAETHAU DARFODOL A THROSIANNOL SY’N YMWNEUD Â DEDDF 2015

Y ddarpariaeth ddarfodol sy’n ymwneud ag adran 1 o Ddeddf 2015

article 11 11.—(1Mae’r addasiadau i adran 1 o Ddeddf 2015 sydd wedi eu nodi ym mharagraff (2) yn gymwys yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 31 Gorffennaf 2026 ac sy’n dod i ben yn union cyn i baragraff 31 o Atodlen 4 i’r Ddeddf ddod i rym yn llawn.

(2Mae adran 1(4) a (5) yn cael effaith fel pe bai’r ddau gyfeiriad at sefydliadau sydd â chynllun ffioedd a mynediad yn gyfeiriadau at sefydliadau sydd â chynllun ffioedd a mynediad ac eithrio sefydliadau sydd hefyd yn ddarparwyr cofrestredig.

Datgymhwyso darpariaethau penodol yn Neddf 2015

article 12 12.—(1Nid yw’r darpariaethau yn Neddf 2015 o fewn paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â sefydliad rheoleiddiedig ar ôl iddo ddod yn ddarparwr cofrestredig.

(2Y darpariaethau yw—

article 12 2 a (a)Rhan 3 (ansawdd yr addysg);

article 12 2 b (b)Rhan 4 (materion ariannol sefydliadau rheoleiddiedig);

article 12 2 c (c)adran 37(3)(d) ac (e) (hysbysiad ynghylch gwrthod cymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad newydd);

article 12 2 d (d)adran 39(2)(c) a (d) (pŵer i dynnu cymeradwyaeth yn ôl);

article 12 2 e (e)adran 52(5)(c) i (f) (datganiad mewn cysylltiad â swyddogaethau ymyrryd);

article 12 2 f (f)adran 52(5)(g) i’r graddau y mae’n ymwneud ag adran 37(3)(d) ac (e);

article 12 2 g (g)adran 52(5)(h) i’r graddau y mae’n ymwneud ag adran 39(2)(c) a (d).

(3Ym mharagraff (1), mae sefydliad rheoleiddiedig yn cynnwys sefydliad sy’n cael ei drin fel sefydliad rheoleiddiedig yn rhinwedd adran 26 (cymhwyso’r Rhan hon pan fo sefydliad yn peidio â chael cynllun a gymeradwywyd) o Ddeddf 2015.

Hysbysiadau rhybuddio o dan Ddeddf 2015

article 13 13.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys pan fo’r Comisiwn wedi rhoi i sefydliad rheoleiddiedig hysbysiad rhybuddio o fewn paragraff (3) a phan fo’r sefydliad yn dod yn ddarparwr cofrestredig.

(2Er gwaethaf yr hysbysiad rhybuddio, ar ôl i’r sefydliad rheoleiddiedig ddod yn ddarparwr cofrestredig, ni chaiff y Comisiwn roi cyfarwyddyd na hysbysiad iddo o dan y darpariaethau a grybwyllir ym mharagraff (3).

(3Mae hysbysiad rhybuddio o fewn y paragraff hwn os yw’n cael ei roi o dan adran 42 (hysbysiadau a chyfarwyddydau arfaethedig: gofyniad i roi hysbysiad rhybuddio) o Ddeddf 2015 ac mae’n ymwneud â’r canlynol—

article 13 3 a (a)cyfarwyddyd arfaethedig o dan—

article 13 3 a i (i)adran 19 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad ag ansawdd annigonol) o’r Ddeddf honno;

article 13 3 a ii (ii)adran 33 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â’r Cod) o’r Ddeddf honno;

article 13 3 b (b)hysbysiad arfaethedig o dan—

article 13 3 b i (i)adran 37(1) o’r Ddeddf honno mewn cysylltiad â’r amod yn adran 37(3)(d) neu (e) o’r Ddeddf honno;

article 13 3 b ii (ii)adran 39(1) o’r Ddeddf honno mewn cysylltiad â’r amod yn adran 39(2)(c) neu (d) o’r Ddeddf honno.

Cyfarwyddydau o dan Ddeddf 2015 nad ydynt mewn grym

article 14 14.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys i gyfarwyddyd a roddir gan y Comisiwn i sefydliad rheoleiddiedig sy’n dod yn ddarparwr cofrestredig.

(2Ar ôl i’r sefydliad rheoleiddiedig ddod yn ddarparwr cofrestredig, mae cyfarwyddyd sydd o fewn paragraff (3) ac y mae paragraff (4) yn gymwys iddo i’w drin fel pe bai wedi ei ddirymu.

(3Mae cyfarwyddyd o fewn y paragraff hwn os yw’n cael ei roi o dan—

article 14 3 a (a)adran 19 o Ddeddf 2015;

article 14 3 b (b)adran 33 o Ddeddf 2015.

(4Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gyfarwyddyd a roddir—

article 14 4 a (a)pan na fo corff llywodraethu’r sefydliad wedi hysbysu’r Comisiwn yn ysgrifenedig ei fod yn derbyn y cyfarwyddyd a phan na fo’r cyfnod ar gyfer gwneud cais am adolygiad o dan reoliad 8 (y weithdrefn i wneud cais am adolygiad o hysbysiadau a chyfarwyddydau) o Reoliadau 2015 wedi dod i ben, neu

article 14 4 b (b)pan fo corff llywodraethu’r sefydliad wedi gwneud cais i’r panel adolygu o dan reoliad 8 o Reoliadau 2015 ac—

article 14 4 b i (i)pan na fo’r adolygiad wedi gorffen, neu

article 14 4 b ii (ii)pan fo’r adolygiad wedi gorffen ond pan na fo’r Comisiwn wedi hysbysu’r corff llywodraethu yn ysgrifenedig fod y cyfarwyddyd yn cael effaith.

(5Ym mharagraff (4)(a), ystyr hysbysu’r Comisiwn yn ysgrifenedig yw hysbysu o dan reoliad 4(a) (trin hysbysiadau a chyfarwyddydau) o Reoliadau 2015.

Hysbysiadau o dan Ddeddf 2015 nad ydynt mewn grym

article 15 15.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys i hysbysiad a roddir gan y Comisiwn i sefydliad rheoleiddiedig sy’n dod yn ddarparwr cofrestredig.

(2Ar ôl i’r sefydliad rheoleiddiedig ddod yn ddarparwr cofrestredig, mae hysbysiad sydd o fewn paragraff (3) ac y mae paragraff (4) yn gymwys iddo i’w drin fel pe bai wedi ei dynnu’n ôl.

(3Mae hysbysiad o fewn y paragraff hwn os yw’n cael ei roi o dan—

article 15 3 a (a)adran 37(1) o Ddeddf 2015 mewn cysylltiad â’r amod yn adran 37(3)(d) neu (e) o’r Ddeddf honno, neu

article 15 3 b (b)adran 39(1) o Ddeddf 2015 mewn cysylltiad â’r amod yn adran 39(2)(c) neu (d) o’r Ddeddf honno.

(4Mae’r paragraff hwn yn gymwys i hysbysiad a roddir—

article 15 4 a (a)pan na fo corff llywodraethu’r sefydliad wedi hysbysu’r Comisiwn yn ysgrifenedig ei fod yn derbyn yr hysbysiad a phan na fo’r cyfnod ar gyfer gwneud cais am adolygiad o dan reoliad 8 o Reoliadau 2015 wedi dod i ben, neu

article 15 4 b (b)pan fo corff llywodraethu’r sefydliad wedi gwneud cais i’r panel adolygu o dan reoliad 8 o Reoliadau 2015 ac—

article 15 4 b i (i)pan na fo’r adolygiad wedi gorffen, neu

article 15 4 b ii (ii)pan fo’r adolygiad wedi gorffen ond pan na fo’r Comisiwn wedi hysbysu’r corff llywodraethu yn ysgrifenedig fod yr hysbysiad yn cael effaith.

(5Ym mharagraff (4)(a), ystyr hysbysu’r Comisiwn yn ysgrifenedig yw hysbysu o dan reoliad 4(a) o Reoliadau 2015.

Hysbysiadau penodol o dan Ddeddf 2015 sydd mewn grym

article 16 16.—(1Nid yw dim yn y Rhan hon yn effeithio ar gymhwysiad hysbysiad sydd—

article 16 1 a (a)o fewn paragraff (2), a

article 16 1 b (b)mewn effaith mewn perthynas â sefydliad yn union cyn i’r sefydliad hwnnw ddod yn ddarparwr cofrestredig.

(2Mae hysbysiad o fewn y paragraff hwn os yw’n cael ei roi o dan—

article 16 2 a (a)adran 37(1) o Ddeddf 2015 mewn cysylltiad â’r amod yn adran 37(3)(d) neu (e) o’r Ddeddf honno;

article 16 2 b (b)adran 39(1) o Ddeddf 2015 mewn cysylltiad â’r amod yn adran 39(2)(c) neu (d) o’r Ddeddf honno.

(3Mae hysbysiad mewn effaith—

article 16 3 a (a)os yw corff llywodraethu’r sefydliad y mae’r hysbysiad wedi ei gyfeirio ato wedi rhoi hysbysiad ysgrifenedig o dan reoliad 4(a) o Reoliadau 2015 ei fod yn derbyn yr hysbysiad,

article 16 3 b (b)os na all y corff hwnnw wneud cais am adolygiad o dan reoliad 8 o Reoliadau 2015 oherwydd bod y cyfnod ar gyfer gwneud cais i’r panel adolygu wedi dod i ben, neu

article 16 3 c (c)os yw’r corff hwnnw wedi cael hysbysiad o dan reoliad 10(2) (y weithdrefn ar ôl adolygu) o Reoliadau 2015 fod yr hysbysiad yn cael effaith ar ôl i adolygiad mewn cysylltiad â’r hysbysiad orffen.

(4Ym mharagraff (1), nid yw hysbysiad a roddir o dan adran 37 o Ddeddf 2015 mewn effaith—

article 16 4 a (a)os yw’r cyfnod a bennir yn yr hysbysiad wedi dod i ben, neu

article 16 4 b (b)os yw’r hysbysiad wedi cael ei dynnu’n ôl o dan adran 37(6) o Ddeddf 2015.

Cyfarwyddydau o dan Ddeddf 2015 sydd mewn grym

article 17 17.—(1Nid yw cyfarwyddyd sydd o fewn paragraff (2) ac mewn effaith yn gymwys ar ôl i’r sefydliad rheoleiddiedig y rhoddwyd y cyfarwyddyd iddo ddod yn ddarparwr cofrestredig.

(2Mae cyfarwyddyd o fewn y paragraff hwn os yw’n cael ei roi o dan unrhyw un o’r adrannau a ganlyn o Ddeddf 2015—

article 17 2 a (a)adran 19;

article 17 2 b (b)adran 21(3) (asesu ansawdd etc: dyletswydd i gydweithredu);

article 17 2 c (c)adran 33;

article 17 2 d (d)adran 35(2) (rheolaeth ariannol: dyletswydd i gydweithredu).

(3Mae cyfarwyddyd sydd o fewn paragraff 2(a) neu (c) mewn effaith—

article 17 3 a (a)os yw’r canlynol yn wir—

article 17 3 a i (i)bod corff llywodraethu’r sefydliad y mae’r cyfarwyddyd wedi ei gyfeirio ato wedi hysbysu’r Comisiwn yn ysgrifenedig o dan reoliad 4(a) o Reoliadau 2015 ei fod yn derbyn y cyfarwyddyd,

article 17 3 a ii (ii)na all corff llywodraethu’r sefydliad y mae’r cyfarwyddyd wedi ei gyfeirio ato wneud cais am adolygiad o dan reoliad 8 o Reoliadau 2015 oherwydd bod y cyfnod ar gyfer gwneud cais i’r panel adolygu wedi dod i ben, neu

article 17 3 a iii (iii)bod corff llywodraethu’r sefydliad y mae’r cyfarwyddyd wedi ei gyfeirio ato wedi cael ei hysbysu yn ysgrifenedig gan y Comisiwn fod y cyfarwyddyd yn cael effaith ar ôl i adolygiad mewn cysylltiad â’r cyfarwyddyd hwnnw orffen,

article 17 3 b (b)os nad yw’r Comisiwn wedi dirymu’r cyfarwyddyd o dan adran 46(b) (cyfarwyddydau: cyffredinol) o Ddeddf 2015, ac

article 17 3 c (c)i’r graddau nad yw’r Comisiwn wedi rhoi hysbysiad o dan adran 45(3) (cyfarwyddydau: cydymffurfio a gorfodi) o Ddeddf 2015 i gorff llywodraethu’r sefydliad y mae’r cyfarwyddyd wedi ei gyfeirio ato yn datgan bod y Comisiwn wedi ei fodloni bod y corff—

article 17 3 c i (i)wedi cydymffurfio â’r cyfarwyddyd, neu

article 17 3 c ii (ii)wedi cydymffurfio â gofyniad penodol yn y cyfarwyddyd.

(4Ym mharagraff (1), mae cyfarwyddyd yn cynnwys cyfarwyddyd sydd wedi ei amrywio o dan adran 46(b) o Ddeddf 2015.

Datganiad mewn cysylltiad â swyddogaethau ymyrryd o dan Ddeddf 2015

article 18 18.—(1I’r graddau y mae’n ymwneud â’r darpariaethau yn Neddf 2015 a restrir ym mharagraff (2), nid yw datganiad a gyhoeddir o dan adran 52 o’r Ddeddf honno yn gymwys mewn perthynas â sefydliad rheoleiddiedig ar ôl iddo ddod yn ddarparwr cofrestredig.

(2Y darpariaethau yn Neddf 2015 yw—

article 18 2 a (a)adran 19;

article 18 2 b (b)adran 20(1) a (2);

article 18 2 c (c)adran 33;

article 18 2 d (d)adran 34;

article 18 2 e (e)adran 37(3)(d) ac (e);

article 18 2 f (f)adran 39(2)(c) a (d).