ID badges: Hide | Show

RHAN 2Y DARPARIAETHAU SY’N DOD I RYM AR 5 EBRILL 2025

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 5 Ebrill 2025

2.  Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 5 Ebrill 2025—

(a)adran 25(2), (3), (5), (6) ac (8) i (11) (y gofrestr) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(b)adran 27 (amodau cofrestru cychwynnol) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(c)adran 28 (amodau cofrestru parhaus cyffredinol) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(d)adran 29 (amodau cofrestru parhaus penodol);

(e)adran 30 (amodau cymesur etc.) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(f)adran 31 (amodau cofrestru parhaus mandadol ar gyfer pob darparwr cofrestredig) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(g)adran 32 (amod cofrestru parhaus mandadol ar y terfynau ffioedd) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(h)adran 35 (dyletswydd y Comisiwn i roi canllawiau ynghylch amodau cofrestru parhaus) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(i)adran 36 (dyletswydd y Comisiwn i fonitro cydymffurfedd ag amodau cofrestru parhaus) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(j)adran 37 (cyngor a chynhorthwy mewn cysylltiad â chydymffurfedd ag amodau cofrestru parhaus);

(k)adran 38 (adolygiadau sy’n berthnasol i gydymffurfedd ag amodau cofrestru parhaus);

(l)adran 39 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio ag amodau cofrestru parhaus);

(m)adran 40 (darpariaeth atodol ynghylch cyfarwyddydau o dan adran 39);

(n)adran 41 (datgofrestru) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(o)adran 42 (datgofrestru: y weithdrefn);

(p)adran 43 (datgofrestru’n wirfoddol a datgofrestru gyda chydsyniad) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(q)adran 44 (newid categori cofrestru heb gais);

(r)adran 45 (adolygiadau o benderfyniadau cofrestru);

(s)adran 47 (cymeradwyo datganiad terfyn ffioedd) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(t)adran 48 (cyhoeddi datganiad terfyn ffioedd cymeradwy);

(u)adran 56 (arfer swyddogaethau asesu addysg uwch gan gorff dynodedig);

(v)adran 73 (dyletswydd i gydweithredu);

(w)adran 74 (pwerau mynd i mewn ac arolygu);

(x)adran 75 (cymhwyso adrannau 76 i 78);

(y)adran 76 (hysbysiadau a chyfarwyddydau arfaethedig: gofyniad i roi hysbysiad rhybuddio);

(z)adran 77 (yr wybodaeth sydd i’w rhoi gyda hysbysiadau a chyfarwyddydau a’r effaith tra bo adolygiad yn yr arfaeth);

(aa)adran 78 (adolygu hysbysiadau a chyfarwyddydau);

(bb)adran 79 (adolygydd penderfyniadau);

(cc)adran 81(1), (2), (3)(b) a (4) (datganiad y Comisiwn ar swyddogaethau ymyrryd);

(dd)adran 82 (effaith cyfarwyddydau a’u gorfodi);

(ee)adran 83 (dynodi darparwyr addysg drydyddol eraill) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(ff)adran 84 (dehongli Rhan 2) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(gg)adran 87(1), (3) a (4) (polisi ar bwerau cyllido) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(hh)adran 101(3) (y chweched dosbarth mewn ysgolion) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(ii)adran 126 (cynlluniau diogelu dysgwyr);

(jj)adran 129 (y cod ymgysylltu â dysgwyr);

(kk)yn Atodlen 1 (y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil)—

(i)paragraff 16(1)(g);

(ii)paragraff 16(1)(h);

(ll)yn Atodlen 4 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol)—

(i)paragraff 8(8);

(ii)paragraff 11;

(iii)paragraff 29(1) i (4), (6) i (8) a (10) i (13).

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 5 Ebrill 2025 i’r graddau a bennir

3.  Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 5 Ebrill 2025 i’r graddau a bennir mewn perthynas â phob darpariaeth o’r fath—

(a)adran 33 (amodau cofrestru parhaus mandadol ar gyfle cyfartal), at ddibenion galluogi’r Comisiwn—

(i)i ymgynghori o dan adran 28(7) o’r Ddeddf mewn perthynas ag unrhyw amodau cofrestru parhaus cyffredinol ar gyfle cyfartal;

(ii)i baratoi ar gyfer amodau cofrestru parhaus ar gyfle cyfartal y gellir eu gosod fel amodau cofrestru parhaus penodol o dan adran 29 o’r Ddeddf;

(b)adran 87(5) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym, ac eithrio mewn perthynas ag adrannau 88 (cymorth ariannol i ddarparwyr penodedig ar gyfer addysg uwch), 89 (cymorth ariannol ar gyfer cyrsiau addysg uwch a bennir mewn rheoliadau) a 105 (cymorth ariannol ar gyfer ymchwil ac arloesi) o’r Ddeddf;

(c)paragraff 6 (goruchwyliaeth gan y Comisiwn) o Atodlen 3 (asesu addysg uwch: corff dynodedig), at ddibenion galluogi’r Comisiwn i baratoi trefniadau o dan y paragraff hwnnw.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 5 Ebrill 2025 yn ddarostyngedig i ddarpariaethau darfodol

4.—(1Daw adran 81(3)(a) o’r Ddeddf i rym ar 5 Ebrill 2025 yn ddarostyngedig i’r addasiad a nodir ym mharagraff (2), sy’n gymwys yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 5 Ebrill 2025 ac sy’n dod i ben â 31 Gorffennaf 2026.

(2Mae adran 81(3)(a) yn cael effaith fel pe bai’r cyfeiriad at ddarparwr cofrestredig yn gyfeiriad at sefydliad rheoleiddiedig.

5.—(1Daw Rhan 1 (dynodiad) o Atodlen 3 i’r Ddeddf i rym ar 5 Ebrill 2025 yn ddarostyngedig i’r addasiadau a nodir ym mharagraffau (2) i (4), sy’n gymwys yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 5 Ebrill 2025 ac sy’n dod i ben â 31 Gorffennaf 2026.

(2Mae paragraff 1(3)(b)(i) o Atodlen 3 yn cael effaith fel pe bai’r cyfeiriad at ddarparwr cofrestredig sy’n darparu addysg uwch yn gyfeiriad at sefydliad rheoleiddiedig.

(3Mae paragraff 2(2)(b) ac (c) o Atodlen 3 yn cael effaith fel pe bai’r ddau gyfeiriad at ddarparwyr cofrestredig sy’n darparu addysg uwch yn gyfeiriadau at sefydliadau rheoleiddiedig.

(4Mae paragraff 3(4)(b)(i) o Atodlen 3 yn cael effaith fel pe bai’r cyfeiriad at ddarparwr cofrestredig sy’n darparu addysg uwch yn gyfeiriad at sefydliad rheoleiddiedig.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 5 Ebrill 2025 yn ddarostyngedig i ddarpariaethau trosiannol

6.—(1Daw paragraff 29(5) o Atodlen 4 i’r Ddeddf i rym ar 5 Ebrill 2025 yn ddarostyngedig i’r ddarpariaeth drosiannol a nodir ym mharagraff (2).

(2Mae adran 50(1) (eu cymeradwyo gan Weinidogion Cymru) o Ddeddf 2013 yn parhau i fod yn gymwys ar ac ar ôl 5 Ebrill 2025 fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn y dyddiad hwnnw mewn perthynas â chynigion a gyhoeddwyd o dan adran 48 (cyhoeddi ac ymgynghori) o’r Ddeddf honno cyn 5 Ebrill 2025.

7.—(1Daw paragraff 29(9) o Atodlen 4 i’r Ddeddf i rym ar 5 Ebrill 2025 yn ddarostyngedig i’r ddarpariaeth drosiannol a nodir ym mharagraff (2).

(2Mae adran 80(3) (hysbysiad gan gorff llywodraethu am derfynu ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol) o Ddeddf 2013 yn parhau i fod yn gymwys ar ac ar ôl 5 Ebrill 2025 fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn y dyddiad hwnnw mewn perthynas ag ymgynghoriadau a gychwynnwyd o dan adran 80(3) o’r Ddeddf honno cyn 5 Ebrill 2025.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 5 Ebrill 2025 i’r graddau a bennir ac yn ddarostyngedig i ddarpariaethau darfodol

8.—(1Daw adrannau 51 (dyletswydd i fonitro ansawdd addysg drydyddol reoleiddiedig ac i hybu gwelliant yn ansawdd yr addysg honno) i 53 (adolygiadau sy’n berthnasol i ansawdd addysg drydyddol) o’r Ddeddf i rym ar 5 Ebrill 2025 at ddibenion galluogi’r Comisiwn i gyhoeddi datganiad sy’n nodi sut y mae’n bwriadu arfer ei swyddogaethau ymyrryd, yn unol ag adran 81(1) o’r Ddeddf, yn ddarostyngedig i’r addasiadau ym mharagraffau (5) a (6).

(2Daw adran 54 (asesu ansawdd addysg uwch) o’r Ddeddf i rym ar 5 Ebrill 2025 at ddibenion galluogi’r Comisiwn i ddynodi corff o dan Atodlen 3 i’r Ddeddf, yn ddarostyngedig i’r addasiad ym mharagraff (7).

(3Mae’r addasiad, i’r Ddeddf, sydd wedi ei nodi ym mharagraff (5)(a), yn gymwys yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 5 Ebrill 2025 ac sy’n dod i ben yn union cyn i baragraff 6(3)(c) o Atodlen 4 i’r Ddeddf ddod i rym.

(4Mae’r addasiadau i’r Ddeddf sydd wedi eu nodi ym mharagraffau (5)(b), (6) a (7) yn gymwys yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 5 Ebrill 2025 ac sy’n dod i ben yn union cyn i baragraff 31 o Atodlen 4 i’r Ddeddf ddod i rym yn llawn.

(5Mae adran 51(b) o’r Ddeddf yn cael effaith fel pe na bai’r cyfeiriad at addysg drydyddol a gyllidir gan y Comisiwn neu a sicrheir fel arall ganddo yn cynnwys addysg drydyddol—

(a)a gyllidir gan y Comisiwn yn unol â’i bwerau yn adran 65 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(1);

(b)a ddarperir gan, neu ar ran, sefydliad rheoleiddiedig nad yw’n ddarparwr cofrestredig.

(6Mae adrannau 52(1)(b) ac (c) (cyngor a chynhorthwy mewn cysylltiad ag ansawdd addysg drydyddol) a 53(b) ac (c) o’r Ddeddf yn cael effaith fel pe na bai’r cyfeiriadau at addysg drydyddol, neu gwrs penodol o addysg drydyddol, yn cynnwys addysg drydyddol, neu gwrs penodol o addysg drydyddol, a ddarperir gan, neu ar ran, sefydliad rheoleiddiedig nad yw’n ddarparwr cofrestredig.

(7Mae adran 54(3) o’r Ddeddf yn cael effaith fel pe na bai pŵer y Comisiwn i asesu, neu wneud trefniadau ar gyfer asesu, ansawdd addysg uwch a ddarperir yng Nghymru gan unrhyw ddarparwr addysg drydyddol, yn cynnwys addysg uwch a ddarperir yng Nghymru gan, neu ar ran, sefydliad rheoleiddiedig nad yw’n ddarparwr cofrestredig.

(8Yn yr erthygl hon, mae i “addysg drydyddol” ac “addysg uwch” yr ystyron a roddir gan adran 144(1) o’r Ddeddf.