RHAN 2Y DARPARIAETHAU SY’N DOD I RYM AR 5 EBRILL 2025
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 5 Ebrill 2025 yn ddarostyngedig i ddarpariaethau trosiannol
7.—(1) Daw paragraff 29(9) o Atodlen 4 i’r Ddeddf i rym ar 5 Ebrill 2025 yn ddarostyngedig i’r ddarpariaeth drosiannol a nodir ym mharagraff (2).
(2) Mae adran 80(3) (hysbysiad gan gorff llywodraethu am derfynu ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol) o Ddeddf 2013 yn parhau i fod yn gymwys ar ac ar ôl 5 Ebrill 2025 fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn y dyddiad hwnnw mewn perthynas ag ymgynghoriadau a gychwynnwyd o dan adran 80(3) o’r Ddeddf honno cyn 5 Ebrill 2025.