ID badges: Hide | Show

RHAN 2Y DARPARIAETHAU SY’N DOD I RYM AR 5 EBRILL 2025

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 5 Ebrill 2025 yn ddarostyngedig i ddarpariaethau trosiannol

6.—(1Daw paragraff 29(5) o Atodlen 4 i’r Ddeddf i rym ar 5 Ebrill 2025 yn ddarostyngedig i’r ddarpariaeth drosiannol a nodir ym mharagraff (2).

(2Mae adran 50(1) (eu cymeradwyo gan Weinidogion Cymru) o Ddeddf 2013 yn parhau i fod yn gymwys ar ac ar ôl 5 Ebrill 2025 fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn y dyddiad hwnnw mewn perthynas â chynigion a gyhoeddwyd o dan adran 48 (cyhoeddi ac ymgynghori) o’r Ddeddf honno cyn 5 Ebrill 2025.