RHAN 2Y DARPARIAETHAU SY’N DOD I RYM AR 5 EBRILL 2025
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 5 Ebrill 2025 yn ddarostyngedig i ddarpariaethau darfodol
5.—(1) Daw Rhan 1 (dynodiad) o Atodlen 3 i’r Ddeddf i rym ar 5 Ebrill 2025 yn ddarostyngedig i’r addasiadau a nodir ym mharagraffau (2) i (4), sy’n gymwys yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 5 Ebrill 2025 ac sy’n dod i ben â 31 Gorffennaf 2026.
(2) Mae paragraff 1(3)(b)(i) o Atodlen 3 yn cael effaith fel pe bai’r cyfeiriad at ddarparwr cofrestredig sy’n darparu addysg uwch yn gyfeiriad at sefydliad rheoleiddiedig.
(3) Mae paragraff 2(2)(b) ac (c) o Atodlen 3 yn cael effaith fel pe bai’r ddau gyfeiriad at ddarparwyr cofrestredig sy’n darparu addysg uwch yn gyfeiriadau at sefydliadau rheoleiddiedig.
(4) Mae paragraff 3(4)(b)(i) o Atodlen 3 yn cael effaith fel pe bai’r cyfeiriad at ddarparwr cofrestredig sy’n darparu addysg uwch yn gyfeiriad at sefydliad rheoleiddiedig.