RHAN 2Y DARPARIAETHAU SY’N DOD I RYM AR 5 EBRILL 2025
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 5 Ebrill 2025
2. Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 5 Ebrill 2025—
(a)adran 25(2), (3), (5), (6) ac (8) i (11) (y gofrestr) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(b)adran 27 (amodau cofrestru cychwynnol) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(c)adran 28 (amodau cofrestru parhaus cyffredinol) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(d)adran 29 (amodau cofrestru parhaus penodol);
(e)adran 30 (amodau cymesur etc.) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(f)adran 31 (amodau cofrestru parhaus mandadol ar gyfer pob darparwr cofrestredig) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(g)adran 32 (amod cofrestru parhaus mandadol ar y terfynau ffioedd) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(h)adran 35 (dyletswydd y Comisiwn i roi canllawiau ynghylch amodau cofrestru parhaus) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(i)adran 36 (dyletswydd y Comisiwn i fonitro cydymffurfedd ag amodau cofrestru parhaus) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(j)adran 37 (cyngor a chynhorthwy mewn cysylltiad â chydymffurfedd ag amodau cofrestru parhaus);
(k)adran 38 (adolygiadau sy’n berthnasol i gydymffurfedd ag amodau cofrestru parhaus);
(l)adran 39 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio ag amodau cofrestru parhaus);
(m)adran 40 (darpariaeth atodol ynghylch cyfarwyddydau o dan adran 39);
(n)adran 41 (datgofrestru) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(o)adran 42 (datgofrestru: y weithdrefn);
(p)adran 43 (datgofrestru’n wirfoddol a datgofrestru gyda chydsyniad) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(q)adran 44 (newid categori cofrestru heb gais);
(r)adran 45 (adolygiadau o benderfyniadau cofrestru);
(s)adran 47 (cymeradwyo datganiad terfyn ffioedd) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(t)adran 48 (cyhoeddi datganiad terfyn ffioedd cymeradwy);
(u)adran 56 (arfer swyddogaethau asesu addysg uwch gan gorff dynodedig);
(v)adran 73 (dyletswydd i gydweithredu);
(w)adran 74 (pwerau mynd i mewn ac arolygu);
(x)adran 75 (cymhwyso adrannau 76 i 78);
(y)adran 76 (hysbysiadau a chyfarwyddydau arfaethedig: gofyniad i roi hysbysiad rhybuddio);
(z)adran 77 (yr wybodaeth sydd i’w rhoi gyda hysbysiadau a chyfarwyddydau a’r effaith tra bo adolygiad yn yr arfaeth);
(aa)adran 78 (adolygu hysbysiadau a chyfarwyddydau);
(bb)adran 79 (adolygydd penderfyniadau);
(cc)adran 81(1), (2), (3)(b) a (4) (datganiad y Comisiwn ar swyddogaethau ymyrryd);
(dd)adran 82 (effaith cyfarwyddydau a’u gorfodi);
(ee)adran 83 (dynodi darparwyr addysg drydyddol eraill) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(ff)adran 84 (dehongli Rhan 2) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(gg)adran 87(1), (3) a (4) (polisi ar bwerau cyllido) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(hh)adran 101(3) (y chweched dosbarth mewn ysgolion) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(ii)adran 126 (cynlluniau diogelu dysgwyr);
(jj)adran 129 (y cod ymgysylltu â dysgwyr);
(kk)yn Atodlen 1 (y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil)—
(i)paragraff 16(1)(g);
(ii)paragraff 16(1)(h);
(ll)yn Atodlen 4 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol)—
(i)paragraff 8(8);
(ii)paragraff 11;
(iii)paragraff 29(1) i (4), (6) i (8) a (10) i (13).