RHAN 4Y DARPARIAETHAU DARFODOL A THROSIANNOL SY’N YMWNEUD Â DEDDF 2015
Hysbysiadau rhybuddio o dan Ddeddf 2015
13.—(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys pan fo’r Comisiwn wedi rhoi i sefydliad rheoleiddiedig hysbysiad rhybuddio o fewn paragraff (3) a phan fo’r sefydliad yn dod yn ddarparwr cofrestredig.
(2) Er gwaethaf yr hysbysiad rhybuddio, ar ôl i’r sefydliad rheoleiddiedig ddod yn ddarparwr cofrestredig, ni chaiff y Comisiwn roi cyfarwyddyd na hysbysiad iddo o dan y darpariaethau a grybwyllir ym mharagraff (3).
(3) Mae hysbysiad rhybuddio o fewn y paragraff hwn os yw’n cael ei roi o dan adran 42 (hysbysiadau a chyfarwyddydau arfaethedig: gofyniad i roi hysbysiad rhybuddio) o Ddeddf 2015 ac mae’n ymwneud â’r canlynol—
(a)cyfarwyddyd arfaethedig o dan—
(i)adran 19 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad ag ansawdd annigonol) o’r Ddeddf honno;
(ii)adran 33 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â’r Cod) o’r Ddeddf honno;
(b)hysbysiad arfaethedig o dan—
(i)adran 37(1) o’r Ddeddf honno mewn cysylltiad â’r amod yn adran 37(3)(d) neu (e) o’r Ddeddf honno;
(ii)adran 39(1) o’r Ddeddf honno mewn cysylltiad â’r amod yn adran 39(2)(c) neu (d) o’r Ddeddf honno.