RHAN 4Y DARPARIAETHAU DARFODOL A THROSIANNOL SY’N YMWNEUD Â DEDDF 2015
Y ddarpariaeth ddarfodol sy’n ymwneud ag adran 1 o Ddeddf 2015
11.—(1) Mae’r addasiadau i adran 1 o Ddeddf 2015 sydd wedi eu nodi ym mharagraff (2) yn gymwys yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 31 Gorffennaf 2026 ac sy’n dod i ben yn union cyn i baragraff 31 o Atodlen 4 i’r Ddeddf ddod i rym yn llawn.
(2) Mae adran 1(4) a (5) yn cael effaith fel pe bai’r ddau gyfeiriad at sefydliadau sydd â chynllun ffioedd a mynediad yn gyfeiriadau at sefydliadau sydd â chynllun ffioedd a mynediad ac eithrio sefydliadau sydd hefyd yn ddarparwyr cofrestredig.