Offerynnau Statudol Cymru
2025 Rhif 425 (Cy. 82)
Anifeiliaid, Cymru
Gorchymyn Clwy’r Traed a’r Genau (Cymru) (Diwygio) 2025
Gwnaed
2 Ebrill 2025
Yn dod i rym
3 Ebrill 2025
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 1, 8(1), 17(1), 23 ac 28 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981(1).
(1)
1981 p. 22 (“Deddf 1981”). Mae swyddogaethau “the Ministers” o dan Ddeddf 1981 (fel y’u diffinnir yn adran 86(1) o Ddeddf 1981) yn arferadwy gan Weinidogion Cymru, o ran Cymru, yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2004 (O.S. 2004/3044), ac adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.