ID badges: Hide | Show

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012 (“Gorchymyn 2012”) a Gorchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 2016 (“Gorchymyn 2016”) mewn perthynas ag ymgynghori cyn gwneud cais ac ymgynghori cyn rhoi caniatâd cynllunio.

Mae erthygl 2 yn diwygio’r tabl yn Atodlen 4 i Orchymyn 2012 (ymgyngoriadau cyn rhoi caniatâd cynllunio) i amnewid y categori o ddatblygiad sydd mewn perygl o lifogydd y mae rhaid ymgynghori â Chorff Adnoddau Naturiol Cymru yn ei gylch (erthygl 2(2) a (3)).

Mae erthygl 3 yn diwygio’r tabl yn Atodlen 5 i Orchymyn 2016 (dyletswydd i ymgynghori cyn rhoi caniatâd cynllunio) i amnewid y categori o ddatblygiad sydd mewn perygl o lifogydd y mae rhaid ymgynghori â Chorff Adnoddau Naturiol Cymru yn ei gylch (erthygl 3(2) a (3)).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.