Diwygio Gorchymyn 2016
3.—(1) Mae Atodlen 5 i Orchymyn 2016 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn y tabl, yn lle rhes (u) rhodder—
“(u) | Datblygiad— (i) Ar dir o fewn Afonydd a’r Môr – Parth Llifogydd 2; (ii) Ar dir o fewn Afonydd a’r Môr – Parth Llifogydd 3; (iii)Ar dir o fewn Parthau Amddiffynedig TAN 15. | Corff Adnoddau Naturiol Cymru” |
(3) O dan y pennawd “Dehongli’r Tabl”, yn lle paragraff (j) rhodder—
“ym mharagraff (u)—
(i)ystyr “Afonydd a’r Môr – Parth Llifogydd 2” (“Rivers and Sea – Flood Zone 2”) yw ardal â llai nag 1 siawns mewn 100 o lifogydd o afonydd a llai nag 1 siawns mewn 200 o lifogydd o’r môr ond mwy nag 1 siawns mewn 1000 o lifogydd o afonydd a’r môr mewn blwyddyn benodol, gan gynnwys newid hinsawdd;
(ii)ystyr “Afonydd a’r Môr – Parth Llifogydd 3” (“Rivers and Sea – Flood Zone 3”) yw ardal lle y mae mwy nag 1 siawns mewn 100 o lifogydd o afonydd mewn blwyddyn benodol, gan gynnwys newid hinsawdd, a mwy nag 1 siawns mewn 200 o lifogydd o’r môr mewn blwyddyn benodol, gan gynnwys newid hinsawdd;
(iii)ystyr “Parthau Amddiffynedig TAN 15” (“TAN 15 Defended Zones”) yw ardaloedd lle y mae seilwaith rheoli perygl llifogydd yn darparu safon ofynnol o ddiogelwch rhag llifogydd o 1 mewn 100 o afonydd ac 1 mewn 200 o’r môr (ynghyd â newid hinsawdd a bwrdd rhydd) fel y nodir yn y Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio a gyhoeddir gan Gyfoeth Naturiol Cymru”.