Diwygio Gorchymyn 2012
2.—(1) Mae Atodlen 4 i Orchymyn 2012 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn y tabl, yn lle rhes (x) rhodder—
“(x) | Datblygiad— (i) Ar dir o fewn Afonydd a’r Môr – Parth Llifogydd 2; (ii) Ar dir o fewn Afonydd a’r Môr – Parth Llifogydd 3; (iii) Ar dir o fewn Parthau Amddiffynedig TAN 15. | Corff Adnoddau Naturiol Cymru” |
(3) O dan y pennawd “Dehongli’r Tabl”, yn lle paragraff (n) rhodder—
“(n)“ym mharagraff (x)—
ystyr “Afonydd a’r Môr – Parth Llifogydd 2” (“Rivers and Sea – Flood Zone 2”) yw ardal â llai nag 1 siawns mewn 100 o lifogydd o afonydd a llai nag 1 siawns mewn 200 o lifogydd o’r môr ond mwy nag 1 siawns mewn 1000 o lifogydd o afonydd a’r môr mewn blwyddyn benodol, gan gynnwys newid hinsawdd;
ystyr “Afonydd a’r Môr – Parth Llifogydd 3” (“Rivers and Sea – Flood Zone 3”) yw ardal â mwy nag 1 siawns mewn 100 o lifogydd o afonydd mewn blwyddyn benodol, gan gynnwys newid hinsawdd, a mwy nag 1 siawns mewn 200 o lifogydd o’r môr mewn blwyddyn benodol, gan gynnwys newid hinsawdd;
ystyr “Parthau Amddiffynedig TAN 15” (“TAN 15 Defended Zones”) yw ardaloedd lle y mae seilwaith rheoli perygl llifogydd yn darparu safon ofynnol o ddiogelwch rhag llifogydd o 1 mewn 100 o afonydd ac 1 mewn 200 o’r môr (ynghyd â newid hinsawdd a bwrdd rhydd) fel y nodir yn y Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio a gyhoeddir gan Gyfoeth Naturiol Cymru(1).”.