Enwi, dod i rym a dehongli
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Gweithdrefn Ddatblygu (Ymgyngoreion) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2025.
(2) Daw i rym ar 21 Ebrill 2025.
(3) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “Gorchymyn 2012” (“the 2012 Order”) yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012(1);
ystyr “Gorchymyn 2016” (“the 2016 Order”) yw Gorchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 2016(2).