ID badges: Hide | Show

ATODLEN 3Addasu darpariaethau’r Ddeddf

RHAN 5Addasu adran 37 o’r Ddeddf (apelau i lys ynadon)

7.  Mae pennawd adran 37 yn gymwys fel pe bai’r cyfeiriad at “or sheriff” wedi ei hepgor.

8.  Mae adran 37(1) yn gymwys fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle’r testun presennol—

(1) Any person who is aggrieved by the decision of an authorised officer of a food authority to serve an improvement notice under regulation 10 may appeal to a magistrates’ court.

9.  Mae adran 37(3) yn gymwys fel pe bai “or an appeal to such a court for which provision is made by regulations under Part II of this Act” wedi ei hepgor.

10.  Mae adran 37(5) yn gymwys fel pe bai—

(a)“or (4)” wedi ei hepgor, a

(b)ym mharagraff (b), “in the case of an appeal under subsection (1)(a) above, that period or” wedi ei hepgor.

11.  Mae adran 37(6) yn gymwys fel pe bai—

(a)“or (4)” wedi ei hepgor, a

(b)ym mharagraff (a), “or to the sheriff” wedi ei hepgor.