ID badges: Hide | Show

ATODLEN 3Addasu darpariaethau’r Ddeddf

RHAN 1Addasu adran 21 o’r Ddeddf (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy)

1.  Mae adran 21 yn gymwys fel pe bai—

(a)yn is-adran (2), y cyfeiriad at drosedd o dan adran 14 neu 15 yn gyfeiriad at drosedd o dan y Rheoliadau hyn, a

(b)yn is-adran (4)(b), y cyfeiriadau at “sale or intended sale” yn cynnwys cyfeiriadau at “promotion or presentation”.