ID badges: Hide | Show

Rheoliad 16

ATODLEN 3Addasu darpariaethau’r Ddeddf

RHAN 1Addasu adran 21 o’r Ddeddf (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy)

1.  Mae adran 21 yn gymwys fel pe bai—

(a)yn is-adran (2), y cyfeiriad at drosedd o dan adran 14 neu 15 yn gyfeiriad at drosedd o dan y Rheoliadau hyn, a

(b)yn is-adran (4)(b), y cyfeiriadau at “sale or intended sale” yn cynnwys cyfeiriadau at “promotion or presentation”.

RHAN 2Addasu adran 32 o’r Ddeddf (pwerau mynediad)

2.  Mae adran 32(1)(a) yn gymwys fel be bai “or of regulations or orders made under it” wedi ei hepgor.

3.  Mae adran 32(6)(a) yn gymwys fel pe bai “or of regulations or orders made under it” wedi ei hepgor.

RHAN 3Addasu adran 34 o’r Ddeddf (terfynau amser ar gyfer erlyniadau)

4.  Mae adran 34 yn gymwys fel pe bai “regulation 11(2)” wedi ei roi yn lle “section 35(2) below”.

RHAN 4Addasu adran 35 o’r Ddeddf (cosbi troseddau)

5.  Mae adran 35(1) yn gymwys fel pe bai’r cyfeiriad at adran 33(1) yn gyfeiriad at yr adran honno fel y’i cymhwysir gan y Rheoliadau hyn.

6.  Mae adran 35(2) yn gymwys fel pe bai “an offence under section 33(2) as applied by these Regulations” wedi ei roi yn lle “any other offence under this Act”.

RHAN 5Addasu adran 37 o’r Ddeddf (apelau i lys ynadon)

7.  Mae pennawd adran 37 yn gymwys fel pe bai’r cyfeiriad at “or sheriff” wedi ei hepgor.

8.  Mae adran 37(1) yn gymwys fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle’r testun presennol—

(1) Any person who is aggrieved by the decision of an authorised officer of a food authority to serve an improvement notice under regulation 10 may appeal to a magistrates’ court.

9.  Mae adran 37(3) yn gymwys fel pe bai “or an appeal to such a court for which provision is made by regulations under Part II of this Act” wedi ei hepgor.

10.  Mae adran 37(5) yn gymwys fel pe bai—

(a)“or (4)” wedi ei hepgor, a

(b)ym mharagraff (b), “in the case of an appeal under subsection (1)(a) above, that period or” wedi ei hepgor.

11.  Mae adran 37(6) yn gymwys fel pe bai—

(a)“or (4)” wedi ei hepgor, a

(b)ym mharagraff (a), “or to the sheriff” wedi ei hepgor.

RHAN 6Addasu adran 39 o’r Ddeddf (apelau yn erbyn hysbysiadau gwella)

12.  Mae adran 39 yn gymwys fel pe bai—

(a)y cyfeiriadau at hysbysiad gwella yn gyfeiriadau at hysbysiad gwella a gyflwynwyd o dan reoliad 10, a

(b)yn is-adran (3), “for want of prosecution” wedi ei hepgor.

RHAN 7Addasu adran 49 o’r Ddeddf (ffurf a dilysu dogfennau)

13.  Mae adran 49(4) yn gymwys fel pe bai “and of any regulations and orders made under it” wedi ei hepgor.