ATODLEN 2Cosbau ariannol penodedig
Apelau
9.—(1) Mae apêl o dan baragraff 8 yn apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf.
(2) Mae hysbysiad terfynol wedi ei atal dros dro wrth aros i’r apêl gael ei phenderfynu neu ei thynnu yn ôl.
(3) Caiff y Tribiwnlys Haen Gyntaf—
(a)tynnu’n ôl, cadarnhau neu amrywio’r gosb neu’r hysbysiad terfynol,
(b)cymryd unrhyw gamau y gallai’r awdurdod bwyd fod wedi eu cymryd mewn perthynas â’r weithred neu’r anweithred sy’n arwain at y gosb neu’r hysbysiad terfynol, neu
(c)anfon y penderfyniad o ran cadarnhau’r gosb neu’r hysbysiad terfynol, neu unrhyw fater arall sy’n ymwneud â’r penderfyniad hwnnw, i’r awdurdod priodol.