ATODLEN 2Cosbau ariannol penodedig
Methu â thalu ar ôl 28 o ddiwrnodau (cosb am dalu’n hwyr)
10.—(1) Rhaid i’r gosb gael ei thalu o fewn 28 o ddiwrnodau i gael yr hysbysiad terfynol.
(2) Os na thelir y gosb o fewn 28 o ddiwrnodau, cynyddir y swm sy’n daladwy 50%.
(3) Yn achos apêl, mae’r gosb (pa un a yw’r Tribiwnlys Haen Gyntaf wedi ei hamrywio neu ei chadarnhau) yn daladwy o fewn 14 o ddiwrnodau i benderfynu’r apêl (os yw’r apêl yn aflwyddiannus), ac os nad yw wedi ei thalu o fewn 14 o ddiwrnodau, cynyddir swm y gosb 50%.