ATODLEN 2Cosbau ariannol penodedig
Gosod cosb ariannol benodedig
1.—(1) Caiff awdurdod bwyd, drwy hysbysiad, osod cosb ariannol benodedig ar berson mewn perthynas â throsedd o dan reoliad 11.
(2) Cyn gwneud hynny, rhaid i’r awdurdod bwyd fod wedi ei fodloni, y tu hwnt i amheuaeth resymol, fod y person wedi cyflawni’r drosedd.
(3) Swm y gosb i’w thalu i’r awdurdod bwyd fel cosb ariannol benodedig yw £2,500.