ID badges: Hide | Show

Rheoliad 3

ATODLEN 1Categorïau o fwyd penodedig

Categori 1

1.  Diodydd ysgafn parod sy’n cynnwys cynhwysion siwgr wedi eu hychwanegu (heblaw’r diodydd ysgafn esempt a restrir ym mharagraff 2(9)).

2.—(1Mae’r darpariaethau a ganlyn yn gymwys at ddibenion y categori hwn.

(2Ystyr “diod ysgafn” yw—

(a)diod o gryfder alcoholig heb fod yn fwy nag 1.2%, neu

(b)hylif neu bowdr sydd, o’i baratoi mewn modd penodedig, yn ffurfio diod o gryfder alcoholig heb fod yn fwy na 1.2%.

(3Mae hylif neu bowdr wedi ei baratoi mewn dull penodedig os yw—

(a)wedi ei wanedu,

(b)wedi ei gyfuno ag iâ mâl, neu wedi ei brosesu er mwyn creu iâ mâl,

(c)wedi ei gyfuno â charbon deuocsid, neu

(d)wedi ei baratoi drwy broses sy’n cynnwys unrhyw gyfuniad o’r prosesau a grybwyllir ym mharagraffau (a) i (c).

(4Mae diod ysgafn yn “barod” os yw—

(a)yn ddiod ysgafn o fewn ystyr paragraff 2(2)(a),

(b)yn ddiod ysgafn o fewn ystyr paragraff 2(2)(b), neu

(c)yn ddiod a fyddai’n deillio o baratoi hylif neu bowdr o fewn paragraff 2(2)(b)—

(i)mewn modd penodedig (gweler paragraff 2(3)), a

(ii)yn unol â’r gymhareb wanedu berthnasol.

(5Ystyr “cymhareb wanedu berthnasol” yw—

(a)y gymhareb wanedu a nodir ar becynwaith y ddiod ysgafn, neu a gyfrifir drwy gyfeirio at wybodaeth a nodir ar becynwaith o’r fath, neu

(b)pan na fo cymhareb wanedu neu wybodaeth o’r fath wedi ei nodi, cymhareb wanedu diodydd tebyg sydd ar y farchnad.

(6Mae diod ysgafn yn cynnwys “cynhwysion siwgr wedi eu hychwanegu” os cyfunir unrhyw un neu ragor o’r sylweddau a ganlyn â chynhwysion eraill ar unrhyw gam wrth gynhyrchu’r ddiod ysgafn—

(a)monosacaridau caloriffig neu ddeusacaridau caloriffig;

(b)sylwedd sy’n cynnwys monosacaridau caloriffig neu ddeusacaridau caloriffig.

(7Ond nid yw diod ysgafn yn cynnwys “cynhwysion siwgr wedi eu hychwanegu” dim ond oherwydd ei bod yn cynnwys sudd ffrwythau, sudd llysiau neu laeth (neu unrhyw gyfuniad ohonynt).

(8Yn is-baragraff (7)—

(a)mae “sudd ffrwythau” i’w ddehongli yn unol â rheoliad 5 o Reoliadau Ardoll y Diwydiant Diodydd Ysgafn 2018(1) (amod cynnwys siwgr: sudd ffrwythau) (“Rheoliadau ADDY”);

(b)mae “sudd llysiau” i’w ddehongli yn unol â rheoliad 6 o Reoliadau ADDY (amod cynnwys siwgr: sudd llysiau);

(c)mae “llaeth” i’w ddehongli yn unol â rheoliad 7 o Reoliadau ADDY (amod cynnwys siwgr a diodydd ysgafn esempt: llaeth a diodydd sydd wedi eu seilio ar laeth).

(9Mae’r canlynol yn “diodydd ysgafn esempt”—

(a)diodydd ysgafn sy’n debyg i fath penodol o ddiod alcoholaidd ac sy’n bodloni amodau penodedig;

(b)diodydd ysgafn o ddisgrifiad penodedig sydd i’w defnyddio at ddibenion meddyginiaethol neu ddibenion penodedig eraill.

(10At ddibenion is-baragraff (9)(a), yr amodau penodedig yw—

(a)amod 1, y darperir ar ei gyfer gan baragraff (2) o reoliad 9 o Reoliadau ADDY (diodydd ysgafn esempt: diodydd efelychu alcohol), a

(b)un neu ragor o amodau 2, 3 a 4, y darperir ar eu cyfer gan baragraffau (3) i (5) o reoliad 9 o Reoliadau ADDY.

(11At ddibenion is-baragraff (9)(b)—

(a)y dibenion meddyginiaethol neu’r dibenion penodedig eraill yw’r rhai y darperir ar eu cyfer gan baragraff (1) o reoliad 10 o Reoliadau ADDY (diodydd ysgafn esempt: at ddibenion meddyginiaethol neu ddibenion eraill), a

(b)y disgrifiadau penodedig yw’r disgrifiadau cyfatebol y darperir ar eu cyfer ym mharagraff (3) o reoliad 10 o Reoliadau ADDY.

Categori 2

3.—(1Unrhyw un neu ragor o’r eitemau a ganlyn—

(a)byrbrydau sawrus, pa un a fwriedir iddynt gael eu bwyta ar eu pen eu hunain neu fel rhan o bryd bwyd cyfan, gan gynnwys—

(i)cynhyrchion wedi eu gwneud o datws, llysiau eraill, grawn neu godlysiau;

(ii)cynhyrchion allwthiedig, taflennog a phelennog;

(iii)cracers sawrus mewn bag, cacennau reis mewn bag neu fisgedi mewn bag,

megis creision, byrbrydau sydd wedi eu seilio ar fara pita, pretsels, popadoms, popgorn wedi ei halltu a chracers corgimwch (ond nid cnau amrwd, cnau wedi eu rhostio, cnau wedi eu caenu na chnau wedi eu cyflasu);

(b)byrbrydau sydd wedi eu seilio ar grofen porc, pa un a fwriedir iddynt gael eu bwyta ar eu pen eu hunain neu fel rhan o bryd bwyd cyfan.

Categori 3

4.  Grawnfwydydd brecwast, gan gynnwys grawnfwydydd parod i’w bwyta, granola, miwsli, ceirch uwd a grawnfwydydd eraill sydd wedi eu seilio ar geirch.

Categori 4

5.  Melysfwyd, gan gynnwys siocledi a melysion.

Categori 5

6.  Hufen iâ, lolis iâ, iogwrt wedi ei rewi, iâ dŵr a chynhyrchion rhewedig tebyg.

Categori 6

7.  Cacennau a chacennau cwpan.

Categori 7

8.  Bisgedi a bariau melys sy’n seiliedig ar un neu ragor o gnau, hadau neu rawnfwyd.

Categori 8

9.  Nwyddau boreol, gan gynnwys croissants, pains au chocolat a chrystiau tebyg, cramwyth, crempogau, byns, cacennau te, sgonau, wafflau, crystiau Danaidd a thorthau ffrwythau.

Categori 9

10.  Pwdinau, gan gynnwys pasteiod, tartenni a fflaniau, cacennau caws, gateaux, pwdinau llaeth, pwdinau sbwng, pwdin reis, crymblau, llenwadau ffrwythau, pwdinau o bowdr, cwstardau, jelïau a meringues.

Categori 10

11.  Iogwrt a fromage frais wedi eu melysu (naill ai â siwgr neu fel arall).

Categori 11

12.  Pizza (ac eithrio seiliau pizza plaen).

Categori 12

13.  Tatws rhost, sglodion, sglodion tenau a wedjys o datws a thatws melys, wafflau tatws, siapiau tatws difyr (megis wynebau gwên), hash browns, rostis, sleisys tatws creisionllyd, croquettes tatws.

Categori 13

14.—(1Unrhyw un neu ragor o’r eitemau a ganlyn—

(a)cynhyrchion sy’n cael eu marchnata fel rhai sy’n barod ar gyfer eu coginio neu eu hailgynhesu heb fod angen eu paratoi ymhellach ac y bwriedir iddynt gael eu bwyta fel pryd bwyd cyfan;

(b)cynhyrchion, heblaw am gynhyrchion sy’n cynnwys crwst, sydd mewn saws neu sydd â saws (ond nid marinâd, sglein, dresin, sesnin na chyfwyd tebyg) sy’n cael eu marchnata fel rhai sy’n barod ar gyfer eu coginio neu eu hailgynhesu heb fod angen eu paratoi ymhellach ac y bwriedir iddynt gael eu bwyta fel prif elfen pryd o fwyd;

(c)yr eitemau a ganlyn sydd mewn briwsion bara neu gytew—

(i)cynhyrchion llysiau, pysgod, pysgod cregyn, cig neu ddofednod;

(ii)cynhyrchion efelychu pysgod, cynhyrchion efelychu pysgod cregyn, cynhyrchion efelychu cig neu gynhyrchion efelychu dofednod,

gan gynnwys bysedd pysgod, cacennau pysgod a chnapiau cyw iâr.