Rheoliad 3
ATODLEN 1Categorïau o fwyd penodedig
Categori 1
schedule 1 paragraph 1 1. Diodydd ysgafn parod sy’n cynnwys cynhwysion siwgr wedi eu hychwanegu (heblaw’r diodydd ysgafn esempt a restrir ym mharagraff 2(9)).
schedule 1 paragraph 2 2.—(1) Mae’r darpariaethau a ganlyn yn gymwys at ddibenion y categori hwn.
(2) Ystyr “diod ysgafn” yw—
schedule 1 paragraph 2 2 a (a)diod o gryfder alcoholig heb fod yn fwy nag 1.2%, neu
schedule 1 paragraph 2 2 b (b)hylif neu bowdr sydd, o’i baratoi mewn modd penodedig, yn ffurfio diod o gryfder alcoholig heb fod yn fwy na 1.2%.
(3) Mae hylif neu bowdr wedi ei baratoi mewn dull penodedig os yw—
schedule 1 paragraph 2 3 a (a)wedi ei wanedu,
schedule 1 paragraph 2 3 b (b)wedi ei gyfuno ag iâ mâl, neu wedi ei brosesu er mwyn creu iâ mâl,
schedule 1 paragraph 2 3 c (c)wedi ei gyfuno â charbon deuocsid, neu
schedule 1 paragraph 2 3 d (d)wedi ei baratoi drwy broses sy’n cynnwys unrhyw gyfuniad o’r prosesau a grybwyllir ym mharagraffau (a) i (c).
(4) Mae diod ysgafn yn “barod” os yw—
schedule 1 paragraph 2 4 a (a)yn ddiod ysgafn o fewn ystyr paragraff 2(2)(a),
schedule 1 paragraph 2 4 b (b)yn ddiod ysgafn o fewn ystyr paragraff 2(2)(b), neu
schedule 1 paragraph 2 4 c (c)yn ddiod a fyddai’n deillio o baratoi hylif neu bowdr o fewn paragraff 2(2)(b)—
schedule 1 paragraph 2 4 c i (i)mewn modd penodedig (gweler paragraff 2(3)), a
schedule 1 paragraph 2 4 c ii (ii)yn unol â’r gymhareb wanedu berthnasol.
(5) Ystyr “cymhareb wanedu berthnasol” yw—
schedule 1 paragraph 2 5 a (a)y gymhareb wanedu a nodir ar becynwaith y ddiod ysgafn, neu a gyfrifir drwy gyfeirio at wybodaeth a nodir ar becynwaith o’r fath, neu
schedule 1 paragraph 2 5 b (b)pan na fo cymhareb wanedu neu wybodaeth o’r fath wedi ei nodi, cymhareb wanedu diodydd tebyg sydd ar y farchnad.
(6) Mae diod ysgafn yn cynnwys “cynhwysion siwgr wedi eu hychwanegu” os cyfunir unrhyw un neu ragor o’r sylweddau a ganlyn â chynhwysion eraill ar unrhyw gam wrth gynhyrchu’r ddiod ysgafn—
schedule 1 paragraph 2 6 a (a)monosacaridau caloriffig neu ddeusacaridau caloriffig;
schedule 1 paragraph 2 6 b (b)sylwedd sy’n cynnwys monosacaridau caloriffig neu ddeusacaridau caloriffig.
(7) Ond nid yw diod ysgafn yn cynnwys “cynhwysion siwgr wedi eu hychwanegu” dim ond oherwydd ei bod yn cynnwys sudd ffrwythau, sudd llysiau neu laeth (neu unrhyw gyfuniad ohonynt).
(8) Yn is-baragraff (7)—
schedule 1 paragraph 2 8 a (a)mae “sudd ffrwythau” i’w ddehongli yn unol â rheoliad 5 o Reoliadau Ardoll y Diwydiant Diodydd Ysgafn 2018(1) (amod cynnwys siwgr: sudd ffrwythau) (“Rheoliadau ADDY”);
schedule 1 paragraph 2 8 b (b)mae “sudd llysiau” i’w ddehongli yn unol â rheoliad 6 o Reoliadau ADDY (amod cynnwys siwgr: sudd llysiau);
schedule 1 paragraph 2 8 c (c)mae “llaeth” i’w ddehongli yn unol â rheoliad 7 o Reoliadau ADDY (amod cynnwys siwgr a diodydd ysgafn esempt: llaeth a diodydd sydd wedi eu seilio ar laeth).
(9) Mae’r canlynol yn “diodydd ysgafn esempt”—
schedule 1 paragraph 2 9 a (a)diodydd ysgafn sy’n debyg i fath penodol o ddiod alcoholaidd ac sy’n bodloni amodau penodedig;
schedule 1 paragraph 2 9 b (b)diodydd ysgafn o ddisgrifiad penodedig sydd i’w defnyddio at ddibenion meddyginiaethol neu ddibenion penodedig eraill.
(10) At ddibenion is-baragraff (9)(a), yr amodau penodedig yw—
schedule 1 paragraph 2 10 a (a)amod 1, y darperir ar ei gyfer gan baragraff (2) o reoliad 9 o Reoliadau ADDY (diodydd ysgafn esempt: diodydd efelychu alcohol), a
schedule 1 paragraph 2 10 b (b)un neu ragor o amodau 2, 3 a 4, y darperir ar eu cyfer gan baragraffau (3) i (5) o reoliad 9 o Reoliadau ADDY.
(11) At ddibenion is-baragraff (9)(b)—
schedule 1 paragraph 2 11 a (a)y dibenion meddyginiaethol neu’r dibenion penodedig eraill yw’r rhai y darperir ar eu cyfer gan baragraff (1) o reoliad 10 o Reoliadau ADDY (diodydd ysgafn esempt: at ddibenion meddyginiaethol neu ddibenion eraill), a
schedule 1 paragraph 2 11 b (b)y disgrifiadau penodedig yw’r disgrifiadau cyfatebol y darperir ar eu cyfer ym mharagraff (3) o reoliad 10 o Reoliadau ADDY.
Categori 2
schedule 1 paragraph 3 3.—(1) Unrhyw un neu ragor o’r eitemau a ganlyn—
schedule 1 paragraph 3 1 a (a)byrbrydau sawrus, pa un a fwriedir iddynt gael eu bwyta ar eu pen eu hunain neu fel rhan o bryd bwyd cyfan, gan gynnwys—
schedule 1 paragraph 3 1 a i (i)cynhyrchion wedi eu gwneud o datws, llysiau eraill, grawn neu godlysiau;
schedule 1 paragraph 3 1 a ii (ii)cynhyrchion allwthiedig, taflennog a phelennog;
schedule 1 paragraph 3 1 a iii (iii)cracers sawrus mewn bag, cacennau reis mewn bag neu fisgedi mewn bag,
megis creision, byrbrydau sydd wedi eu seilio ar fara pita, pretsels, popadoms, popgorn wedi ei halltu a chracers corgimwch (ond nid cnau amrwd, cnau wedi eu rhostio, cnau wedi eu caenu na chnau wedi eu cyflasu);
schedule 1 paragraph 3 1 b (b)byrbrydau sydd wedi eu seilio ar grofen porc, pa un a fwriedir iddynt gael eu bwyta ar eu pen eu hunain neu fel rhan o bryd bwyd cyfan.
Categori 3
schedule 1 paragraph 4 4. Grawnfwydydd brecwast, gan gynnwys grawnfwydydd parod i’w bwyta, granola, miwsli, ceirch uwd a grawnfwydydd eraill sydd wedi eu seilio ar geirch.
Categori 4
schedule 1 paragraph 5 5. Melysfwyd, gan gynnwys siocledi a melysion.
Categori 5
schedule 1 paragraph 6 6. Hufen iâ, lolis iâ, iogwrt wedi ei rewi, iâ dŵr a chynhyrchion rhewedig tebyg.
Categori 6
schedule 1 paragraph 7 7. Cacennau a chacennau cwpan.
Categori 7
schedule 1 paragraph 8 8. Bisgedi a bariau melys sy’n seiliedig ar un neu ragor o gnau, hadau neu rawnfwyd.
Categori 8
schedule 1 paragraph 9 9. Nwyddau boreol, gan gynnwys croissants, pains au chocolat a chrystiau tebyg, cramwyth, crempogau, byns, cacennau te, sgonau, wafflau, crystiau Danaidd a thorthau ffrwythau.
Categori 9
schedule 1 paragraph 10 10. Pwdinau, gan gynnwys pasteiod, tartenni a fflaniau, cacennau caws, gateaux, pwdinau llaeth, pwdinau sbwng, pwdin reis, crymblau, llenwadau ffrwythau, pwdinau o bowdr, cwstardau, jelïau a meringues.
Categori 10
schedule 1 paragraph 11 11. Iogwrt a fromage frais wedi eu melysu (naill ai â siwgr neu fel arall).
Categori 11
schedule 1 paragraph 12 12. Pizza (ac eithrio seiliau pizza plaen).
Categori 12
schedule 1 paragraph 13 13. Tatws rhost, sglodion, sglodion tenau a wedjys o datws a thatws melys, wafflau tatws, siapiau tatws difyr (megis wynebau gwên), hash browns, rostis, sleisys tatws creisionllyd, croquettes tatws.
Categori 13
schedule 1 paragraph 14 14.—(1) Unrhyw un neu ragor o’r eitemau a ganlyn—
schedule 1 paragraph 14 1 a (a)cynhyrchion sy’n cael eu marchnata fel rhai sy’n barod ar gyfer eu coginio neu eu hailgynhesu heb fod angen eu paratoi ymhellach ac y bwriedir iddynt gael eu bwyta fel pryd bwyd cyfan;
schedule 1 paragraph 14 1 b (b)cynhyrchion, heblaw am gynhyrchion sy’n cynnwys crwst, sydd mewn saws neu sydd â saws (ond nid marinâd, sglein, dresin, sesnin na chyfwyd tebyg) sy’n cael eu marchnata fel rhai sy’n barod ar gyfer eu coginio neu eu hailgynhesu heb fod angen eu paratoi ymhellach ac y bwriedir iddynt gael eu bwyta fel prif elfen pryd o fwyd;
schedule 1 paragraph 14 1 c (c)yr eitemau a ganlyn sydd mewn briwsion bara neu gytew—
schedule 1 paragraph 14 1 c i (i)cynhyrchion llysiau, pysgod, pysgod cregyn, cig neu ddofednod;
schedule 1 paragraph 14 1 c ii (ii)cynhyrchion efelychu pysgod, cynhyrchion efelychu pysgod cregyn, cynhyrchion efelychu cig neu gynhyrchion efelychu dofednod,
gan gynnwys bysedd pysgod, cacennau pysgod a chnapiau cyw iâr.