ID badges: Hide | Show

RHAN 3Cyfyngiadau ar hyrwyddo a chyflwyno bwyd penodedig

Cyfyngu ar gyflwyno bwyd penodedig – mewn siop

6.—(1Ni chaiff person cymhwysol gyflwyno bwyd penodedig y tu mewn i siop—

(a)o fewn 2 fetr i gyfleuster talu, oni bai bod y bwyd penodedig wedi ei gyflwyno mewn eil (ond nid ar ei phen draw);

(b)o fewn 2 fetr i ardal giwio ddynodedig, oni bai bod y bwyd penodedig wedi ei gyflwyno mewn eil (ond nid ar ei phen draw);

(c)mewn arddangosiad—

(i)sydd ar ben draw eil (ond nid yn yr eil), na

(ii)sydd ar strwythur ar wahân (megis bin ynys, uned annibynnol, pentwr ochr neu stribed clipiau) sydd wedi ei gysylltu â phen draw eil, neu’n gyfagos iddo, neu o fewn 50 centimetr iddo;

(d)mewn unrhyw fan o fewn y pellter gwaharddedig oddi wrth ganolbwynt unrhyw fynedfa gyhoeddus i brif ardal siopa’r siop;

(e)mewn ardal allanol sydd wedi ei gorchuddio.

(2Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i’r naill neu’r llall o’r canlynol—

(a)siopau y mae arwynebedd perthnasol y llawr yn llai na 185.8 metr sgwâr;

(b)siopau nad ydynt ond yn gwerthu bwyd o un categori a restrir yn Atodlen 1 neu sy’n gwerthu bwyd o’r fath yn bennaf.

(3Yn y rheoliad hwn—

(a)ystyr “cyfleuster talu” yw cyfleuster y bwriedir i ddefnyddwyr ei ddefnyddio i brynu, gan gynnwys terfynell hunanwasanaeth a chownter lle y defnyddir til arian parod (gan gynnwys yr ardal y tu ôl i gownter o’r fath);

(b)ystyr “ardal allanol sydd wedi ei gorchuddio” yw ardal o dan orchudd, sydd y tu allan ac wedi ei chysylltu â phrif ardal siopa siop, y mae’r cyhoedd yn pasio drwyddi er mwyn mynd i mewn i’r brif ardal siopa (megis cyntedd, lobi neu festibwl);

(c)ystyr “ardal giwio ddynodedig” yw ardal sydd wedi ei neilltuo a’i marcio at ddiben darparu lle i ddefnyddwyr aros i brynu;

(d)ystyr “pellter gwaharddedig” yw’r lleiaf o blith 15 metr neu’r ateb i’r fformiwla a ganlyn—

Fformiwla

lle ɑ yw arwynebedd perthnasol y llawr yn y siop;

(e)ystyr “arwynebedd perthnasol y llawr” yw arwynebedd mewnol llawr siop mewn adeilad, ac eithrio unrhyw ran o’r siop—

(i)nas defnyddir ar gyfer arddangos nwyddau neu ar gyfer gwasanaethu cwsmeriaid mewn cysylltiad â gwerthu nwyddau (megis mannau storio),

(ii)a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer paratoi neu werthu bwyd y bwriedir iddo gael ei fwyta ar unwaith, naill ai ar neu oddi ar y fangre (gan gynnwys siop goffi neu ffreutur),

(iii)sy’n ystafell a ddefnyddir i ymgynghori â chwsmeriaid mewn cysylltiad ag unrhyw wasanaethau meddygol (megis fferyllfa neu wasanaethau optegydd) a gynigir yn y siop, neu

(iv)sydd wedi ei meddiannu gan fusnes heblaw’r busnes sy’n bennaf cyfrifol am reoli a gweithredu’r siop (“consesiwn”), ond dim ond pan fo’r consesiwn yn gweithredu ei gyfleusterau talu ei hun.