RHAN 3Cyfyngiadau ar hyrwyddo a chyflwyno bwyd penodedig
Cyfyngu ar gyflwyno bwyd penodedig – mewn siop
regulation 6 6.—(1) Ni chaiff person cymhwysol gyflwyno bwyd penodedig y tu mewn i siop—
regulation 6 1 a (a)o fewn 2 fetr i gyfleuster talu, oni bai bod y bwyd penodedig wedi ei gyflwyno mewn eil (ond nid ar ei phen draw);
regulation 6 1 b (b)o fewn 2 fetr i ardal giwio ddynodedig, oni bai bod y bwyd penodedig wedi ei gyflwyno mewn eil (ond nid ar ei phen draw);
regulation 6 1 c (c)mewn arddangosiad—
regulation 6 1 c i (i)sydd ar ben draw eil (ond nid yn yr eil), na
regulation 6 1 c ii (ii)sydd ar strwythur ar wahân (megis bin ynys, uned annibynnol, pentwr ochr neu stribed clipiau) sydd wedi ei gysylltu â phen draw eil, neu’n gyfagos iddo, neu o fewn 50 centimetr iddo;
regulation 6 1 d (d)mewn unrhyw fan o fewn y pellter gwaharddedig oddi wrth ganolbwynt unrhyw fynedfa gyhoeddus i brif ardal siopa’r siop;
regulation 6 1 e (e)mewn ardal allanol sydd wedi ei gorchuddio.
(2) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i’r naill neu’r llall o’r canlynol—
regulation 6 2 a (a)siopau y mae arwynebedd perthnasol y llawr yn llai na 185.8 metr sgwâr;
regulation 6 2 b (b)siopau nad ydynt ond yn gwerthu bwyd o un categori a restrir yn Atodlen 1 neu sy’n gwerthu bwyd o’r fath yn bennaf.
(3) Yn y rheoliad hwn—
regulation 6 3 a (a)ystyr “cyfleuster talu” yw cyfleuster y bwriedir i ddefnyddwyr ei ddefnyddio i brynu, gan gynnwys terfynell hunanwasanaeth a chownter lle y defnyddir til arian parod (gan gynnwys yr ardal y tu ôl i gownter o’r fath);
regulation 6 3 b (b)ystyr “ardal allanol sydd wedi ei gorchuddio” yw ardal o dan orchudd, sydd y tu allan ac wedi ei chysylltu â phrif ardal siopa siop, y mae’r cyhoedd yn pasio drwyddi er mwyn mynd i mewn i’r brif ardal siopa (megis cyntedd, lobi neu festibwl);
regulation 6 3 c (c)ystyr “ardal giwio ddynodedig” yw ardal sydd wedi ei neilltuo a’i marcio at ddiben darparu lle i ddefnyddwyr aros i brynu;
regulation 6 3 d (d)ystyr “pellter gwaharddedig” yw’r lleiaf o blith 15 metr neu’r ateb i’r fformiwla a ganlyn—
lle ɑ yw arwynebedd perthnasol y llawr yn y siop;
regulation 6 3 e (e)ystyr “arwynebedd perthnasol y llawr” yw arwynebedd mewnol llawr siop mewn adeilad, ac eithrio unrhyw ran o’r siop—
regulation 6 3 e i (i)nas defnyddir ar gyfer arddangos nwyddau neu ar gyfer gwasanaethu cwsmeriaid mewn cysylltiad â gwerthu nwyddau (megis mannau storio),
regulation 6 3 e ii (ii)a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer paratoi neu werthu bwyd y bwriedir iddo gael ei fwyta ar unwaith, naill ai ar neu oddi ar y fangre (gan gynnwys siop goffi neu ffreutur),
regulation 6 3 e iii (iii)sy’n ystafell a ddefnyddir i ymgynghori â chwsmeriaid mewn cysylltiad ag unrhyw wasanaethau meddygol (megis fferyllfa neu wasanaethau optegydd) a gynigir yn y siop, neu
regulation 6 3 e iv (iv)sydd wedi ei meddiannu gan fusnes heblaw’r busnes sy’n bennaf cyfrifol am reoli a gweithredu’r siop (“consesiwn”), ond dim ond pan fo’r consesiwn yn gweithredu ei gyfleusterau talu ei hun.