RHAN 2Ystyr bwyd penodedig a busnes cymhwysol
Bwyd penodedig
3.—(1) At ddibenion y Rheoliadau hyn, “bwyd penodedig” yw bwyd sydd wedi ei gynnwys mewn eitem fwyd wedi ei rhagbecynnu—
(a)sy’n fwyd Atodlen 1,
(b)sy’n llai iach (fel y’i diffinnir ym mharagraff (5)), ac
(c)nad yw’n fwyd y mae paragraff (6) (gwerthiant bwyd elusennol) yn gymwys iddo.
(2) At ddibenion y Rheoliadau hyn, ystyr “bwyd Atodlen 1” yw bwyd sy’n dod o fewn categori a bennir yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn (categorïau o fwyd penodedig).
(3) Pan fo eitem fwyd wedi ei rhagbecynnu yn cynnwys mwy nag un math o fwyd, mae’r holl fwyd a gynhwysir yn yr eitem i’w drin at ddibenion paragraff (1)(a) fel bwyd Atodlen 1 pan fyddai un (neu ragor) o’r mathau o fwyd a gynhwysir yn yr eitem, ar ei ben ei hun, yn fwyd Atodlen 1.
(4) Pan fo cynnyrch yn cynnwys eitemau lluosog, y mae un (neu ragor) ohonynt yn eitem fwyd wedi ei rhagbecynnu sy’n cynnwys bwyd penodedig, mae’r cynnyrch cyfan i’w drin fel bwyd penodedig.
(5) At ddibenion y rheoliad hwn—
(a)mae bwyd nad yw’n ddiod yn llai iach os pennir sgôr o 4 pwynt neu ragor iddo yn unol â’r Canllawiau Technegol ar gyfer Proffilio Maethynnau;
(b)mae diod yn llai iach os pennir sgôr o 1 pwynt neu ragor iddi yn unol â’r Canllawiau Technegol ar gyfer Proffilio Maethynnau.
(6) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i fwyd—
(a)a ddarperir gan elusen, wrth gynnal ei gweithgareddau elusennol, am ddim neu am bris sy’n llai na chost darparu’r bwyd hwnnw, neu
(b)a gynigir ar werth gan neu ar ran elusen er mwyn codi arian ar gyfer ei gweithgareddau elusennol mewn un digwyddiad.
(7) At ddibenion paragraff (6)—
(a)mae i “elusen” yr ystyr a roddir i “charity” gan adran 1 o Ddeddf Elusennau 2011(1);
(b)ystyr “gweithgaredd elusennol” yw gweithgaredd a gyflawnir at ddiben elusennol, heblaw at ddiben codi arian yn bennaf;
(c)mae i “diben elusennol” yr ystyr a roddir i “charitable purpose” gan adran 2(1) o Ddeddf Elusennau 2011.