RHAN 2Ystyr bwyd penodedig a busnes cymhwysol
Bwyd penodedig
regulation 3 3.—(1) At ddibenion y Rheoliadau hyn, “bwyd penodedig” yw bwyd sydd wedi ei gynnwys mewn eitem fwyd wedi ei rhagbecynnu—
regulation 3 1 a (a)sy’n fwyd Atodlen 1,
regulation 3 1 b (b)sy’n llai iach (fel y’i diffinnir ym mharagraff (5)), ac
regulation 3 1 c (c)nad yw’n fwyd y mae paragraff (6) (gwerthiant bwyd elusennol) yn gymwys iddo.
(2) At ddibenion y Rheoliadau hyn, ystyr “bwyd Atodlen 1” yw bwyd sy’n dod o fewn categori a bennir yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn (categorïau o fwyd penodedig).
(3) Pan fo eitem fwyd wedi ei rhagbecynnu yn cynnwys mwy nag un math o fwyd, mae’r holl fwyd a gynhwysir yn yr eitem i’w drin at ddibenion paragraff (1)(a) fel bwyd Atodlen 1 pan fyddai un (neu ragor) o’r mathau o fwyd a gynhwysir yn yr eitem, ar ei ben ei hun, yn fwyd Atodlen 1.
(4) Pan fo cynnyrch yn cynnwys eitemau lluosog, y mae un (neu ragor) ohonynt yn eitem fwyd wedi ei rhagbecynnu sy’n cynnwys bwyd penodedig, mae’r cynnyrch cyfan i’w drin fel bwyd penodedig.
(5) At ddibenion y rheoliad hwn—
regulation 3 5 a (a)mae bwyd nad yw’n ddiod yn llai iach os pennir sgôr o 4 pwynt neu ragor iddo yn unol â’r Canllawiau Technegol ar gyfer Proffilio Maethynnau;
regulation 3 5 b (b)mae diod yn llai iach os pennir sgôr o 1 pwynt neu ragor iddi yn unol â’r Canllawiau Technegol ar gyfer Proffilio Maethynnau.
(6) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i fwyd—
regulation 3 6 a (a)a ddarperir gan elusen, wrth gynnal ei gweithgareddau elusennol, am ddim neu am bris sy’n llai na chost darparu’r bwyd hwnnw, neu
regulation 3 6 b (b)a gynigir ar werth gan neu ar ran elusen er mwyn codi arian ar gyfer ei gweithgareddau elusennol mewn un digwyddiad.
(7) At ddibenion paragraff (6)—
regulation 3 7 a (a)mae i “elusen” yr ystyr a roddir i “charity” gan adran 1 o Ddeddf Elusennau 2011(1);
regulation 3 7 b (b)ystyr “gweithgaredd elusennol” yw gweithgaredd a gyflawnir at ddiben elusennol, heblaw at ddiben codi arian yn bennaf;
regulation 3 7 c (c)mae i “diben elusennol” yr ystyr a roddir i “charitable purpose” gan adran 2(1) o Ddeddf Elusennau 2011.