RHAN 1Cyflwyniad
Dehongli
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
mae i “awdurdod bwyd” yr ystyr a roddir i “food authority” gan adran 5(1A) o’r Ddeddf(1);
mae i “busnes cymhwysol” (“qualifying business”) yr ystyr a roddir gan reoliad 4;
mae i “bwyd” yr un ystyr â “food” yn adran 1(1) o’r Ddeddf(2);
mae i “bwyd Atodlen 1” (“Schedule 1 food”) yr ystyr a roddir gan reoliad 3(2);
mae i “bwyd penodedig” (“specified food”) yr ystyr a roddir gan reoliad 3;
ystyr “y Canllawiau Technegol ar gyfer Proffilio Maethynnau” (“the Nutrient Profiling Technical Guidance”) yw’r canllawiau a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar 14 Ionawr 2011 ynghylch cymhwyso Model Proffilio Maethynnau 2004-2005 (3);
ystyr “cynnig arbennig perthnasol” (“relevant special offer”) yw cynnig o bris gostyngol am eitemau lluosog a hyrwyddir fel rhai y bwriedir iddynt gael eu defnyddio gyda’i gilydd fel un pryd o fwyd neu fel rhan o un pryd o fwyd, gan un person neu gan ddau neu ragor o bobl gyda’i gilydd (megis cynigion “bargen fwyd” neu “bargen bwyta i mewn i ddau”);
mae i “defnyddiwr” yr ystyr a roddir i “consumer” gan adran 2(3) o Ddeddf Hawliau Defnyddwyr 2015(4);
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
ystyr “eitem fwyd wedi ei rhagbecynnu” (“prepacked food item”) yw eitem y cyfeirir ati yn Erthygl 2(2)(e) o Reoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor, dyddiedig 25 Hydref 2011, ar ddarparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr(5);
ystyr “marchnadle ar-lein” (“online marketplace”) yw unrhyw feddalwedd (gan gynnwys gwefan, rhan o wefan, neu raglen) a ddefnyddir i gynnig cynhyrchion y busnes cymhwysol ar werth i ddefnyddwyr;
ystyr “person cymhwysol” (“qualifying person”) yw person sy’n gweithredu wrth gynnal busnes cymhwysol.
(2) At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae person cymhwysol yn cynnig cynhyrchion busnes cymhwysol ar werth ar farchnadle ar-lein os yw’n penderfynu (naill ai ar ran y busnes cymhwysol neu ar ran busnes arall) fod y cynnyrch i’w gynnig ar werth, ac yn penderfynu ar bris y cynnyrch hwnnw, ni waeth pwy sy’n ymgymryd ar ran y busnes cymhwysol—
(a)i gael taliad gan y prynwr, neu
(b)i weithredu’r marchnadle ar-lein fel arall.
Mewnosodwyd adran 5(1A) o Ddeddf 1990 gan baragraff 16(1) o Atodlen 9 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p. 19).
Mae’r diffiniad o “food” yn adran 1(1) o Ddeddf 1990 yn cyfeirio at Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor, sy’n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau mewn perthynas â materion diogelwch bwyd (“Rheoliad (EC) Rhif 178/2002”). Mae Erthygl 2 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 yn diffinio “food” at ddibenion y Rheoliad hwnnw.
Gellir dod o hyd i gopi electronig ar https://www.gov.uk/government/publications/the-nutrient-profiling-model. Gellir cael copïau caled ar gais oddi wrth: Iechyd y Boblogaeth, Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
EUR 2011/1169, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.