ID badges: Hide | Show

RHAN 7Materion atodol a gweinyddol

Adolygu

15.—(1Yn ogystal â’r adolygiad a gynhelir o dan adran 67 (adolygu) o Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008, rhaid i Weinidogion Cymru o bryd i’w gilydd adolygu’r ddarpariaeth reoleiddiol sydd wedi ei chynnwys yn y Rheoliadau hyn a chyhoeddi adroddiad sy’n nodi casgliadau’r adolygiad.

(2Rhaid cyhoeddi’r adroddiad cyntaf cyn diwedd y cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y daw’r Rheoliadau hyn i rym.

(3Rhaid cyhoeddi adroddiadau dilynol ar ysbeidiau heb fod yn hwy na 5 mlynedd.

(4Rhaid i adroddiad a gyhoeddir o dan y rheoliad hwn, yn benodol—

(a)nodi’r amcanion y bwriedir eu cyflawni gan y ddarpariaeth reoleiddiol yn y Rheoliadau hyn,

(b)asesu i ba raddau y cyflawnir yr amcanion hynny,

(c)asesu i ba raddau y mae’r amcanion hynny yn parhau’n briodol, a

(d)os yw’r amcanion hynny yn parhau’n briodol, asesu i ba raddau y gellid eu cyflawni mewn ffordd arall sy’n cynnwys darpariaeth reoleiddiol lai beichus.

(5Yn y rheoliad hwn mae i “darpariaeth reoleiddiol” yr un ystyr â “regulatory provision” yn adran 32 o Ddeddf Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth 2015(1).