ID badges: Hide | Show

RHAN 7Materion atodol a gweinyddol

Cyhoeddi camau gorfodi

14.—(1Rhaid i bob awdurdod bwyd o bryd i’w gilydd gyhoeddi adroddiad am y camau gorfodi y mae wedi eu cymryd o dan y Rheoliadau hyn.

(2Rhaid i’r adroddiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) bennu—

(a)yr achosion y gosodwyd cosb ariannol benodedig ynddynt, a

(b)yr achosion y cafwyd rhyddhad rhag atebolrwydd am y gosb ariannol benodedig ynddynt drwy dalu’r gosb yn dilyn yr hysbysiad o fwriad a heb fod camau pellach yn cael eu cymryd.

(3Ym mharagraff (2)(a), nid yw’r cyfeiriad at achosion y gosodwyd y gosb ariannol benodedig ynddynt yn cynnwys achosion pan fo’r gosb wedi ei gosod ond wedi ei gwrthdroi ar apêl.

(4Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys mewn achosion pan fo’r canlynol yn wir ar adeg cyhoeddi’r adroddiad—

(a)nid yw’r cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y gosodwyd y gosb ariannol benodedig wedi dod i ben eto, neu

(b)mae apêl a gyflwynwyd yn unol â pharagraffau 8 a 9 o Atodlen 2 yn yr arfaeth mewn perthynas â’r gosb ariannol benodedig.

(5Nid oes dim yn y rheoliad hwn sy’n awdurdodi prosesu data personol pan fyddai gwneud hynny yn mynd yn groes i’r ddeddfwriaeth diogelu data, ac at y dibenion hyn, mae i “data personol” ac “y ddeddfwriaeth diogelu data” yr un ystyr ag a roddir i “personal data” a “the data protection legislation” yn adran 3 o Ddeddf Diogelu Data 2018(1).

(1)

2018 p. 12; diwygiwyd adran 3 gan O.S. 2019/419.