RHAN 7Materion atodol a gweinyddol
Cyhoeddi camau gorfodi
regulation 14 14.—(1) Rhaid i bob awdurdod bwyd o bryd i’w gilydd gyhoeddi adroddiad am y camau gorfodi y mae wedi eu cymryd o dan y Rheoliadau hyn.
(2) Rhaid i’r adroddiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) bennu—
regulation 14 2 a (a)yr achosion y gosodwyd cosb ariannol benodedig ynddynt, a
regulation 14 2 b (b)yr achosion y cafwyd rhyddhad rhag atebolrwydd am y gosb ariannol benodedig ynddynt drwy dalu’r gosb yn dilyn yr hysbysiad o fwriad a heb fod camau pellach yn cael eu cymryd.
(3) Ym mharagraff (2)(a), nid yw’r cyfeiriad at achosion y gosodwyd y gosb ariannol benodedig ynddynt yn cynnwys achosion pan fo’r gosb wedi ei gosod ond wedi ei gwrthdroi ar apêl.
(4) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys mewn achosion pan fo’r canlynol yn wir ar adeg cyhoeddi’r adroddiad—
regulation 14 4 a (a)nid yw’r cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y gosodwyd y gosb ariannol benodedig wedi dod i ben eto, neu
regulation 14 4 b (b)mae apêl a gyflwynwyd yn unol â pharagraffau 8 a 9 o Atodlen 2 yn yr arfaeth mewn perthynas â’r gosb ariannol benodedig.
(5) Nid oes dim yn y rheoliad hwn sy’n awdurdodi prosesu data personol pan fyddai gwneud hynny yn mynd yn groes i’r ddeddfwriaeth diogelu data, ac at y dibenion hyn, mae i “data personol” ac “y ddeddfwriaeth diogelu data” yr un ystyr ag a roddir i “personal data” a “the data protection legislation” yn adran 3 o Ddeddf Diogelu Data 2018(1).
2018 p. 12; diwygiwyd adran 3 gan O.S. 2019/419.