ID badges: Hide | Show

RHAN 7Materion atodol a gweinyddol

Canllawiau o ran defnyddio cosbau ariannol penodedig

13.—(1Rhaid i bob awdurdod bwyd gyhoeddi canllawiau ynghylch ei ddefnydd o’r pŵer ym mharagraff 1 o Atodlen 2 (pŵer i osod cosbau ariannol penodedig).

(2Rhaid i’r canllawiau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) gynnwys gwybodaeth gan gynnwys (pa un ai ymhlith pethau eraill ai peidio)—

(a)yr amgylchiadau pan fo cosb ariannol benodedig yn debygol o gael ei gosod o dan y Rheoliadau hyn,

(b)yr amgylchiadau pan na chaniateir ei gosod,

(c)swm y gosb,

(d)sut y caniateir cael rhyddhad rhag atebolrwydd am y gosb ac effaith y rhyddhad hwnnw, ac

(e)hawliau person i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau a’i hawliau apelio.

(3Rhaid i’r awdurdod bwyd adolygu’r canllawiau pan fo’n ystyried ei bod yn briodol.

(4Rhaid i’r awdurdod bwyd ymgynghori â’r personau hynny y mae’n ystyried eu bod yn briodol cyn cyhoeddi unrhyw ganllawiau neu ganllawiau diwygiedig.

(5Rhaid i bob awdurdod bwyd roi sylw i’r canllawiau neu’r canllawiau diwygiedig wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn.