RHAN 7Materion atodol a gweinyddol
Canllawiau o ran defnyddio cosbau ariannol penodedig
regulation 13 13.—(1) Rhaid i bob awdurdod bwyd gyhoeddi canllawiau ynghylch ei ddefnydd o’r pŵer ym mharagraff 1 o Atodlen 2 (pŵer i osod cosbau ariannol penodedig).
(2) Rhaid i’r canllawiau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) gynnwys gwybodaeth gan gynnwys (pa un ai ymhlith pethau eraill ai peidio)—
regulation 13 2 a (a)yr amgylchiadau pan fo cosb ariannol benodedig yn debygol o gael ei gosod o dan y Rheoliadau hyn,
regulation 13 2 b (b)yr amgylchiadau pan na chaniateir ei gosod,
regulation 13 2 c (c)swm y gosb,
regulation 13 2 d (d)sut y caniateir cael rhyddhad rhag atebolrwydd am y gosb ac effaith y rhyddhad hwnnw, ac
regulation 13 2 e (e)hawliau person i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau a’i hawliau apelio.
(3) Rhaid i’r awdurdod bwyd adolygu’r canllawiau pan fo’n ystyried ei bod yn briodol.
(4) Rhaid i’r awdurdod bwyd ymgynghori â’r personau hynny y mae’n ystyried eu bod yn briodol cyn cyhoeddi unrhyw ganllawiau neu ganllawiau diwygiedig.
(5) Rhaid i bob awdurdod bwyd roi sylw i’r canllawiau neu’r canllawiau diwygiedig wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn.