ID badges: Hide | Show

RHAN 6Trosedd a sancsiwn sifil

Trosedd

11.—(1Mae person yn cyflawni trosedd os yw’n methu â chydymffurfio â hysbysiad gwella a gyflwynir o dan reoliad 10.

(2Mae person sy’n euog o drosedd o dan y rheoliad hwn yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.

Sancsiwn sifil

12.  Mae Atodlen 2 (cosbau ariannol penodedig) i’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer gosod cosb ariannol benodedig ar berson (“cosb ariannol benodedig”) yn ddewis arall fel sancsiwn sifil ar gyfer gorfodi trosedd o dan reoliad 11.