RHAN 5Gorfodi
Gorfodi
9. Rhaid i bob awdurdod bwyd orfodi a gweithredu’r Rheoliadau hyn o fewn ei ardal.
Hysbysiad gwella
10. Os oes gan awdurdod bwyd seiliau rhesymol dros gredu bod person yn methu â chydymffurfio ag un neu ragor o reoliadau 5 i 8, caniateir iddo, drwy hysbysiad a gyflwynir i’r person hwnnw (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “hysbysiad gwella”)—
(a)datgan ar ba sail y mae’r awdurdod yn credu bod y person yn methu â chydymffurfio ag un neu ragor o reoliadau 5 i 8,
(b)pennu’r materion sy’n peri bod y person yn methu â chydymffurfio,
(c)pennu’r camau y mae rhaid i’r person eu cymryd, ym marn yr awdurdod, er mwyn sicrhau cydymffurfedd, a
(d)ei gwneud yn ofynnol i’r person gymryd y camau hynny, neu gamau sy’n gyfwerth o leiaf â’r camau hynny, o fewn unrhyw gyfnod a bennir yn yr hysbysiad.