RHAN 3Cyfyngiadau ar hyrwyddo a chyflwyno bwyd penodedig
Cyfyngu ar hyrwyddiadau pris ar gyfer bwyd penodedig
5.—(1) Ni chaiff person cymhwysol gynnig bwyd penodedig ar werth fel rhan o hyrwyddiad pris ar sail swmp (naill ai mewn siop neu ar farchnadle ar-lein).
(2) Yn y rheoliad hwn, ystyr “hyrwyddiad pris ar sail swmp” yw—
(a)hyrwyddiad amleitem, sef cynnig datganedig sy’n rhoi cymhelliad ariannol dros brynu eitemau lluosog o gymharu â phrynu pob eitem ar wahân (gan gynnwys “3 am bris 2”, “3 am £10”, neu “prynu 6 ac arbed 25%”);
(b)hyrwyddiad sy’n dangos bod eitem, neu unrhyw ran o eitem, yn rhad ac am ddim (gan gynnwys “50% yn ychwanegol am ddim”, neu “prynu un eitem a chael un arall am ddim”).
(3) Nid yw hyrwyddiad amleitem yn cynnwys cynnig arbennig perthnasol.
Cyfyngu ar gyflwyno bwyd penodedig – mewn siop
6.—(1) Ni chaiff person cymhwysol gyflwyno bwyd penodedig y tu mewn i siop—
(a)o fewn 2 fetr i gyfleuster talu, oni bai bod y bwyd penodedig wedi ei gyflwyno mewn eil (ond nid ar ei phen draw);
(b)o fewn 2 fetr i ardal giwio ddynodedig, oni bai bod y bwyd penodedig wedi ei gyflwyno mewn eil (ond nid ar ei phen draw);
(c)mewn arddangosiad—
(i)sydd ar ben draw eil (ond nid yn yr eil), na
(ii)sydd ar strwythur ar wahân (megis bin ynys, uned annibynnol, pentwr ochr neu stribed clipiau) sydd wedi ei gysylltu â phen draw eil, neu’n gyfagos iddo, neu o fewn 50 centimetr iddo;
(d)mewn unrhyw fan o fewn y pellter gwaharddedig oddi wrth ganolbwynt unrhyw fynedfa gyhoeddus i brif ardal siopa’r siop;
(e)mewn ardal allanol sydd wedi ei gorchuddio.
(2) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i’r naill neu’r llall o’r canlynol—
(a)siopau y mae arwynebedd perthnasol y llawr yn llai na 185.8 metr sgwâr;
(b)siopau nad ydynt ond yn gwerthu bwyd o un categori a restrir yn Atodlen 1 neu sy’n gwerthu bwyd o’r fath yn bennaf.
(3) Yn y rheoliad hwn—
(a)ystyr “cyfleuster talu” yw cyfleuster y bwriedir i ddefnyddwyr ei ddefnyddio i brynu, gan gynnwys terfynell hunanwasanaeth a chownter lle y defnyddir til arian parod (gan gynnwys yr ardal y tu ôl i gownter o’r fath);
(b)ystyr “ardal allanol sydd wedi ei gorchuddio” yw ardal o dan orchudd, sydd y tu allan ac wedi ei chysylltu â phrif ardal siopa siop, y mae’r cyhoedd yn pasio drwyddi er mwyn mynd i mewn i’r brif ardal siopa (megis cyntedd, lobi neu festibwl);
(c)ystyr “ardal giwio ddynodedig” yw ardal sydd wedi ei neilltuo a’i marcio at ddiben darparu lle i ddefnyddwyr aros i brynu;
(d)ystyr “pellter gwaharddedig” yw’r lleiaf o blith 15 metr neu’r ateb i’r fformiwla a ganlyn—
lle ɑ yw arwynebedd perthnasol y llawr yn y siop;
(e)ystyr “arwynebedd perthnasol y llawr” yw arwynebedd mewnol llawr siop mewn adeilad, ac eithrio unrhyw ran o’r siop—
(i)nas defnyddir ar gyfer arddangos nwyddau neu ar gyfer gwasanaethu cwsmeriaid mewn cysylltiad â gwerthu nwyddau (megis mannau storio),
(ii)a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer paratoi neu werthu bwyd y bwriedir iddo gael ei fwyta ar unwaith, naill ai ar neu oddi ar y fangre (gan gynnwys siop goffi neu ffreutur),
(iii)sy’n ystafell a ddefnyddir i ymgynghori â chwsmeriaid mewn cysylltiad ag unrhyw wasanaethau meddygol (megis fferyllfa neu wasanaethau optegydd) a gynigir yn y siop, neu
(iv)sydd wedi ei meddiannu gan fusnes heblaw’r busnes sy’n bennaf cyfrifol am reoli a gweithredu’r siop (“consesiwn”), ond dim ond pan fo’r consesiwn yn gweithredu ei gyfleusterau talu ei hun.
Cyfyngu ar gyflwyno bwyd penodedig – ar-lein
7.—(1) Ni chaiff person cymhwysol beri i fwyd penodedig gael ei gynnig ar werth ar farchnadle ar-lein—
(a)ar dudalen gartref (pa un a yw’r defnyddiwr yn mynd i mewn i’r marchnadle ar-lein drwy’r dudalen gartref ai peidio);
(b)tra bo defnyddiwr yn chwilio am gynhyrchion heblaw bwyd Atodlen 1 neu’n pori drwy gynhyrchion o’r fath, oni bai bod paragraff (4) neu (5) yn gymwys;
(c)tra bo defnyddiwr yn chwilio am fwyd Atodlen 1 neu’n pori drwy fwyd o’r fath, oni bai—
(i)bod y bwyd penodedig yn dod o fewn yr un categori yn Atodlen 1, neu
(ii)bod paragraff (4) neu (5) yn gymwys;
(d)ar dudalen nas agorir yn fwriadol gan y defnyddiwr (megis tudalen “naid” neu “hyrddiad brandio”);
(e)ar dudalen hoff gynhyrchion, oni bai bod y defnyddiwr wedi prynu’r bwyd penodedig o’r blaen (naill ai mewn siop neu ar farchnadle ar-lein) neu wedi ei nodi’n fwriadol fel hoff gynnyrch, ond ni chaniateir rhoi mwy o amlygrwydd i fwyd penodedig nag i gynhyrchion eraill ar dudalen hoff gynhyrchion;
(f)ar dudalen dalu.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gwahardd cynnig bwyd penodedig ar werth ar dudalen a agorir yn fwriadol gan ddefnyddiwr at ddiben pori drwy gynigion arbennig yn gyffredinol.
(3) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys mewn cysylltiad â busnes cymhwysol nad yw ond yn gwerthu bwyd o un categori a restrir yn Atodlen 1 neu sy’n gwerthu bwyd o’r fath yn bennaf.
(4) Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
(a)pan fo defnyddiwr yn chwilio am fwyd neu’n ei bori (pa un a yw’n fwyd penodedig ai peidio), a
(b)pan fo’r person cymhwysol yn peri i fwyd penodedig gael ei gynnig ar werth ynghyd â’r bwyd y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) fel rhan o gynnig arbennig perthnasol.
(5) Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
(a)pan fo defnyddiwr yn pori drwy gategori cyffredinol o gynnyrch sy’n cynnwys y bwyd penodedig (megis categorïau sy’n ymwneud â thymor, neu nodweddion maeth neu ddeiet);
(b)mewn perthynas â chwilio—
(i)pan fo defnyddiwr yn chwilio am gategori cyffredinol o gynnyrch sy’n cynnwys y bwyd penodedig;
(ii)pan fo term chwilio a fewnbynnwyd gan y defnyddiwr yn cyfateb yn gyfan gwbl neu’n rhannol—
(aa)i’r enw y mae’r bwyd penodedig wedi ei farchnata odano, neu
(bb)i gynhwysyn sydd wedi ei restru ar becynwaith y bwyd penodedig.
(6) Yn y rheoliad hwn—
(a)ystyr “tudalen dalu” yw tudalen a ddangosir i ddefnyddiwr fel rhan o’r broses dalu, megis tudalen sy’n rhestru eitemau y mae’r defnyddiwr wedi eu dethol hyd hynny i’w prynu, neu dudalen sy’n ymdrin â thalu, casglu neu ddanfon;
(b)ystyr “tudalen hoff gynhyrchion” yw tudalen a agorir gan ddefnyddiwr at ddiben pori drwy gynhyrchion y mae wedi eu prynu o’r blaen neu wedi eu nodi’n fwriadol fel hoff gynhyrchion;
(c)ystyr “tudalen gartref” yw unrhyw un neu ragor o—
(i)tudalen gyhoeddus lefel uchaf marchnadle ar-lein;
(ii)tudalen gyhoeddus lefel uchaf adran groser marchnadle ar-lein.