ID badges: Hide | Show

RHAN 2Ystyr bwyd penodedig a busnes cymhwysol

Bwyd penodedig

3.—(1At ddibenion y Rheoliadau hyn, “bwyd penodedig” yw bwyd sydd wedi ei gynnwys mewn eitem fwyd wedi ei rhagbecynnu—

(a)sy’n fwyd Atodlen 1,

(b)sy’n llai iach (fel y’i diffinnir ym mharagraff (5)), ac

(c)nad yw’n fwyd y mae paragraff (6) (gwerthiant bwyd elusennol) yn gymwys iddo.

(2At ddibenion y Rheoliadau hyn, ystyr “bwyd Atodlen 1” yw bwyd sy’n dod o fewn categori a bennir yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn (categorïau o fwyd penodedig).

(3Pan fo eitem fwyd wedi ei rhagbecynnu yn cynnwys mwy nag un math o fwyd, mae’r holl fwyd a gynhwysir yn yr eitem i’w drin at ddibenion paragraff (1)(a) fel bwyd Atodlen 1 pan fyddai un (neu ragor) o’r mathau o fwyd a gynhwysir yn yr eitem, ar ei ben ei hun, yn fwyd Atodlen 1.

(4Pan fo cynnyrch yn cynnwys eitemau lluosog, y mae un (neu ragor) ohonynt yn eitem fwyd wedi ei rhagbecynnu sy’n cynnwys bwyd penodedig, mae’r cynnyrch cyfan i’w drin fel bwyd penodedig.

(5At ddibenion y rheoliad hwn—

(a)mae bwyd nad yw’n ddiod yn llai iach os pennir sgôr o 4 pwynt neu ragor iddo yn unol â’r Canllawiau Technegol ar gyfer Proffilio Maethynnau;

(b)mae diod yn llai iach os pennir sgôr o 1 pwynt neu ragor iddi yn unol â’r Canllawiau Technegol ar gyfer Proffilio Maethynnau.

(6Mae’r paragraff hwn yn gymwys i fwyd—

(a)a ddarperir gan elusen, wrth gynnal ei gweithgareddau elusennol, am ddim neu am bris sy’n llai na chost darparu’r bwyd hwnnw, neu

(b)a gynigir ar werth gan neu ar ran elusen er mwyn codi arian ar gyfer ei gweithgareddau elusennol mewn un digwyddiad.

(7At ddibenion paragraff (6)—

(a)mae i “elusen” yr ystyr a roddir i “charity” gan adran 1 o Ddeddf Elusennau 2011(1);

(b)ystyr “gweithgaredd elusennol” yw gweithgaredd a gyflawnir at ddiben elusennol, heblaw at ddiben codi arian yn bennaf;

(c)mae i “diben elusennol” yr ystyr a roddir i “charitable purpose” gan adran 2(1) o Ddeddf Elusennau 2011.

Busnesau cymhwysol

4.—(1At ddibenion rheoliadau 5 (cyfyngu ar hyrwyddiadau pris), 6 (cyfyngu ar gyflwyno mewn siop) a 7 (cyfyngu ar gyflwyno ar-lein) mae busnes yn “busnes cymhwysol”—

(a)os yw person, wrth gynnal y busnes, yn cynnig ar werth i ddefnyddwyr (naill ai mewn siop neu ar farchnadle ar-lein) unrhyw eitem fwyd wedi ei rhagbecynnu,

(b)os oedd gan y busnes, ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn ariannol pan ddigwyddodd unrhyw gynnig i werthu o’r fath, 50 o gyflogeion neu ragor, ac

(c)os nad yw’r busnes—

(i)yn gartref gofal;

(ii)yn sefydliad addysgol;

(iii)yn fwyty.

(2At ddibenion rheoliad 8 (cyfyngu ar hyrwyddiadau ail-lenwadau diodydd) mae busnes yn “busnes cymhwysol”—

(a)os yw person, wrth gynnal y busnes, yn cynnig ar werth i ddefnyddwyr (mewn siop) unrhyw ddiod y mae rheoliad 8 yn gymwys iddi,

(b)os oedd gan y busnes, ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn ariannol pan ddigwyddodd unrhyw gynnig i werthu o’r fath, 50 o gyflogeion neu ragor, ac

(c)os nad yw’r busnes—

(i)yn gartref gofal;

(ii)yn sefydliad addysgol.

(3At ddibenion penderfynu faint o gyflogeion sydd gan fusnes, mae busnes a gynhelir yn unol â chytundeb masnachfraint i’w drin fel rhan o fusnes y breiniwr ac nid fel busnes ar wahân a gynhelir gan y deiliad braint.

(4Mae “cytundeb masnachfraint” yn bodoli—

(a)pan fo un ymgymeriad (“y deiliad braint”) ac ymgymeriad arall (“y breiniwr”) yn cytuno bod y deiliad braint yn cynnal gweithgaredd busnes sy’n cynnwys gwerthu neu ddosbarthu bwyd (“y busnes masnachfraint”), a

(b)pan fo paragraffau (5) a (6) yn gymwys i’r busnes masnachfraint.

(5Mae’r paragraff hwn yn gymwys os yw’r breiniwr wedi cytuno ar y canlynol—

(a)y bwyd a ddarperir yn y busnes masnachfraint,

(b)golwg mewnol neu allanol y fangre y mae’r busnes masnachfraint yn cael ei gynnal ynddi, ac

(c)y model busnes a ddefnyddir ar gyfer gweithredu’r busnes masnachfraint.

(6Mae’r paragraff hwn yn gymwys os yw’r materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (5) yn debyg i faterion ymgymeriadau eraill y mae’r breiniwr wedi ymrwymo i drefniadau contractiol cymaradwy mewn cysylltiad â hwy.

(7At ddibenion y rheoliad hwn—

(a)cyflogeion busnes yw’r personau sydd wedi eu cyflogi at ddibenion y busnes;

(b)ystyr “cartref gofal” yw man yng Nghymru lle y darperir gwasanaeth cartref gofal, o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016(2), yn gyfan gwbl neu’n bennaf i bersonau sy’n 18 oed neu’n hŷn ac nad yw’n darparu bwyd ond i breswylwyr y cartref gofal hwnnw ac sy’n codi tâl am y gwasanaeth hwnnw fel rhan o gost y llety;

(c)ystyr “contract cyflogaeth” yw contract gwasanaeth, sydd naill ai’n ddatganedig neu’n oblygedig, ac (os yw’n ddatganedig) naill ai ar lafar neu mewn ysgrifen;

(d)ystyr “sefydliad addysgol” yw sefydliad sy’n darparu addysg yn unig pan fo’r addysg honno yn cael ei darparu’n gyfan gwbl neu’n bennaf i ddisgyblion sydd o dan 18 oed;

(e)ystyr “cyflogai” yw unigolyn sydd wedi ymrwymo i gontract cyflogaeth neu sy’n gweithio o dan gontract o’r fath, pa un a yw’r contract hwnnw ar gyfer cyflogaeth llawnamser neu ran-amser;

(f)ystyr “bwyty” yw busnes y mae ei fangre yn cael ei defnyddio yn bennaf ar gyfer paratoi neu werthu bwyd y bwriedir ei fwyta ar unwaith, naill ai ar neu oddi ar y fangre (gan gynnwys caffi, siop goffi, busnes bwyd cyflym neu fusnes cludfwyd).