ID badges: Hide | Show

RHAN 4Diwygio Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2019

6.  Mae Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2019(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn—

(a)yn rheoliad 2, yn y lle priodol mewnosoder—

ystyr “y Rheoliadau Graddau Arolygu” (“the Inspection Ratings Regulations”) yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Graddau Arolygu) (Cymru) 2025;;

(b)ar ôl rheoliad 9 mewnosoder—

Troseddau o dan y Rheoliadau Graddau Arolygu

9ZA.(1) Mae’r drosedd o dan y ddarpariaeth yn y Rheoliadau Graddau Arolygu a restrir yng ngholofn gyntaf y tabl yn Atodlen 5A wedi ei rhagnodi’n drosedd at ddibenion adran 52(1) o’r Ddeddf.

(2) Mae ail golofn y tabl yn Atodlen 5A yn cynnwys disgrifiad o natur gyffredinol y drosedd ragnodedig.

(3) Mae swm y gosb sydd i’w dalu ar gyfer y drosedd wedi ei bennu yn nhrydedd golofn y tabl yn Atodlen 5A.;

(c)ar ôl Atodlen 5 mewnosoder—

Rheoliad 9ZA

Atodlen 5ATroseddau rhagnodedig - graddau arolygu

Y ddarpariaeth sy’n creu’r droseddNatur gyffredinol y droseddSwm y gosb
Rheoliad 3(1) a (3) o’r Rheoliadau Graddau ArolyguMynd yn groes i’r gofyniad ynghylch arddangos graddau arolygu, neu fethiant i gydymffurfio ag efSwm sy’n cyfateb i lefel 4 ar y raddfa safonol