RHAN 4Diwygio Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2019
regulation 6 6. Mae Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2019(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn—
regulation 6 a (a)yn rheoliad 2, yn y lle priodol mewnosoder—
“ystyr “y Rheoliadau Graddau Arolygu” (“the Inspection Ratings Regulations”) yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Graddau Arolygu) (Cymru) 2025;”;
regulation 6 b (b)ar ôl rheoliad 9 mewnosoder—
Troseddau o dan y Rheoliadau Graddau Arolygu
9ZA.—(1) Mae’r drosedd o dan y ddarpariaeth yn y Rheoliadau Graddau Arolygu a restrir yng ngholofn gyntaf y tabl yn Atodlen 5A wedi ei rhagnodi’n drosedd at ddibenion adran 52(1) o’r Ddeddf.
(2) Mae ail golofn y tabl yn Atodlen 5A yn cynnwys disgrifiad o natur gyffredinol y drosedd ragnodedig.
(3) Mae swm y gosb sydd i’w dalu ar gyfer y drosedd wedi ei bennu yn nhrydedd golofn y tabl yn Atodlen 5A.”;
regulation 6 c (c)ar ôl Atodlen 5 mewnosoder—
Rheoliad 9ZA
“Atodlen 5ATroseddau rhagnodedig - graddau arolygu
Y ddarpariaeth sy’n creu’r drosedd | Natur gyffredinol y drosedd | Swm y gosb |
---|---|---|
Rheoliad 3(1) a (3) o’r Rheoliadau Graddau Arolygu | Mynd yn groes i’r gofyniad ynghylch arddangos graddau arolygu, neu fethiant i gydymffurfio ag ef | Swm sy’n cyfateb i lefel 4 ar y raddfa safonol” |