ID badges: Hide | Show

RHAN 2Graddau arolygu

Apelio yn erbyn graddau arolygu

4.—(1Caiff darparwr gwasanaeth perthnasol apelio i Weinidogion Cymru yn erbyn gradd arolygu a roddwyd pan fo’r amodau a nodir ym mharagraff (2) wedi eu bodloni.

(2Yr amodau yw—

(a)bod y darparwr gwasanaeth perthnasol, o fewn 10 niwrnod gwaith sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’n cael(1) copi o adroddiad arolygu(2), wedi hysbysu Gweinidogion Cymru yn ysgrifenedig ei fod yn ceisio adolygiad o’r radd arolygu ar y seiliau a ganlyn—

(i)anghywirdeb ffeithiol;

(ii)tystiolaeth anghyflawn,

(b)bod y darparwr gwasanaeth perthnasol wedi cael canlyniad adolygiad Gweinidogion Cymru o’r radd arolygu,

(c)bod y darparwr gwasanaeth perthnasol, o fewn 5 niwrnod gwaith sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’n cael canlyniad yr adolygiad, wedi hysbysu Gweinidogion Cymru yn ysgrifenedig ei fod yn ceisio apelio yn erbyn canlyniad yr adolygiad, a

(d)bod yr apêl yn cael ei gwneud ar yr un seiliau â’r rhai y dibynnir arnynt i geisio’r adolygiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (a).

(3Pan fo apêl yn cael ei gwneud gan ddarparwr gwasanaeth perthnasol, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)ystyried yr apêl a chadarnhau’r radd arolygu derfynol drwy anfon adroddiad arolygu terfynol at y darparwr gwasanaeth perthnasol;

(b)cydymffurfio â’r ddyletswydd i gyhoeddi’r adroddiad arolygu o dan adran 36(3)(a) o’r Ddeddf.

(1)

Gweler adran 184(8) o’r Ddeddf.

(2)

Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i arolygiad gael ei gynnal, rhaid i Weinidogion Cymru lunio adroddiad ar yr arolygiad ac anfon copi ohono at y darparwr gwasanaeth o dan adran 36(1) o’r Ddeddf.