RHAN 2Graddau arolygu
Gofyniad ynghylch arddangos graddau arolygu
3.—(1) Rhaid i ddarparwr gwasanaeth perthnasol ddangos ar bob gwefan a gynhelir ganddo neu ar ei ran, ac sy’n ymwneud â’i wasanaeth rheoleiddiedig perthnasol, y radd arolygu ddiweddaraf—
(a)ar gyfer pob gwasanaeth rheoleiddiedig perthnasol, a
(b)ar gyfer pob man y darperir y gwasanaeth rheoleiddiedig perthnasol ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef ac y mae’r radd yn gymwys iddo.
(2) Rhaid i ddarparwr gwasanaeth perthnasol sicrhau bod copi o’r wybodaeth y mae paragraff (1) yn gymwys iddi yn cael ei roi ar gael ar gais.
(3) Rhaid i ddarparwr gwasanaeth perthnasol arddangos y radd arolygu ddiweddaraf yn y man y darperir y gwasanaeth ynddo neu ohono ac y mae’r radd yn gymwys iddo.
(4) Ond nid yw paragraff (3) yn gymwys mewn perthynas â’r canlynol—
(a)gwasanaeth cartref gofal a ddarperir mewn man—
(i)lle y’i darperir yn gyfan gwbl neu’n bennaf i bersonau sydd o dan 18 oed, neu
(ii)lle y mae’n lletya pedwar neu lai o unigolion;
(b)man y darperir gwasanaeth cymorth cartref ohono nad yw’n hygyrch i aelodau o’r cyhoedd.
(5) Rhaid i radd arolygu y mae’n ofynnol ei harddangos yn unol â gofynion y rheoliad hwn—
(a)cael ei harddangos yn ddi-oed ar ôl iddi gael ei chyhoeddi mewn adroddiad arolygu;
(b)bod ar y ffurf benodedig a ddynodir gan Weinidogion Cymru;
(c)bod yn ddarllenadwy;
(d)cynnwys y dyddiad y rhoddwyd y radd arolygu;
(e)cael ei harddangos yn amlwg mewn lleoliad sy’n hygyrch—
(i)i unigolion sy’n cael y gwasanaeth rheoleiddiedig perthnasol;
(ii)i ymwelwyr â’r man y darperir y gwasanaeth rheoleiddiedig perthnasol ynddo neu ohono.