RHAN 2Graddau arolygu
Gofyniad ynghylch arddangos graddau arolygu
regulation 3 3.—(1) Rhaid i ddarparwr gwasanaeth perthnasol ddangos ar bob gwefan a gynhelir ganddo neu ar ei ran, ac sy’n ymwneud â’i wasanaeth rheoleiddiedig perthnasol, y radd arolygu ddiweddaraf—
regulation 3 1 a (a)ar gyfer pob gwasanaeth rheoleiddiedig perthnasol, a
regulation 3 1 b (b)ar gyfer pob man y darperir y gwasanaeth rheoleiddiedig perthnasol ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef ac y mae’r radd yn gymwys iddo.
(2) Rhaid i ddarparwr gwasanaeth perthnasol sicrhau bod copi o’r wybodaeth y mae paragraff (1) yn gymwys iddi yn cael ei roi ar gael ar gais.
(3) Rhaid i ddarparwr gwasanaeth perthnasol arddangos y radd arolygu ddiweddaraf yn y man y darperir y gwasanaeth ynddo neu ohono ac y mae’r radd yn gymwys iddo.
(4) Ond nid yw paragraff (3) yn gymwys mewn perthynas â’r canlynol—
regulation 3 4 a (a)gwasanaeth cartref gofal a ddarperir mewn man—
regulation 3 4 a i (i)lle y’i darperir yn gyfan gwbl neu’n bennaf i bersonau sydd o dan 18 oed, neu
regulation 3 4 a ii (ii)lle y mae’n lletya pedwar neu lai o unigolion;
regulation 3 4 b (b)man y darperir gwasanaeth cymorth cartref ohono nad yw’n hygyrch i aelodau o’r cyhoedd.
(5) Rhaid i radd arolygu y mae’n ofynnol ei harddangos yn unol â gofynion y rheoliad hwn—
regulation 3 5 a (a)cael ei harddangos yn ddi-oed ar ôl iddi gael ei chyhoeddi mewn adroddiad arolygu;
regulation 3 5 b (b)bod ar y ffurf benodedig a ddynodir gan Weinidogion Cymru;
regulation 3 5 c (c)bod yn ddarllenadwy;
regulation 3 5 d (d)cynnwys y dyddiad y rhoddwyd y radd arolygu;
regulation 3 5 e (e)cael ei harddangos yn amlwg mewn lleoliad sy’n hygyrch—
regulation 3 5 e i (i)i unigolion sy’n cael y gwasanaeth rheoleiddiedig perthnasol;
regulation 3 5 e ii (ii)i ymwelwyr â’r man y darperir y gwasanaeth rheoleiddiedig perthnasol ynddo neu ohono.